Y1 > Welsh > Science_Technology > ICT > Creu rhaglen ddogfen yn yr ardd

Gan Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu: 

Creu rhaglen ddogfen byd natur

Create a nature documentary

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dysgu sut i fynd ati i greu rhaglen ddogfen byd natur. Mwynhewch!

In this activity you will learn how to create a nature documentary. Enjoy!

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf edrychwch ar y rhaglen ddogfen natur yma.

Look carefully at this nature documentary.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Ewch ati i greu eich rhaglen ddogfen natur eich hun.

Cofiwch y canlynol:

  • Dewisiwch a gwnewch ychydig o waith ymchwil ar y bwystfilod bach byddwch yn sôn am yn eich rhaglen ddogfen.
  • Meddyliwch am leoliad addas ar gyfer eich rhaglen ddogfen.
  • Cyflwynwch eich hun a’r rhaglen ddogfen. Soniwch ychydig bach am beth fydd y rhaglen ddogfen yn sôn am.
  • Dywedwch ffeithiau diddorol am y bwystfilod bach yr ydych chi wedi eu gweld: Sut maent yn edrych? Ble maent yn byw? Beth maent yn bwyta?

Cofiwch ymarfer eich rhaglen ddogfen. Sut fedrwch chi wella eich rhaglen ddogfen?

  • Ychwanegwch gerddoriaeth ar ddechrau ac ar ddiwedd eich rhaglen ddogfen.
  • Recordiwch eich rhaglen ddogfen yn defnyddio dyfais recordio.
  • Eisteddwch yn ôl a gwyliwch eich rhaglen ddogfen gyda theulu a ffrindiau. Mwynhewch!

Go ahead and create your own nature documentary.

Remember the following:

  • Choose and find out a few interesting facts about the minibeasts you will be talking about in your nature documentary.
  • Think of a suitable location for your nature documentary.
  • Introduce yourself and the nature documentary. Mention a little about the content of your nature documentary.
  • Tell us interesting facts about the minibeasts you’ve seen: What do they look like? Where do they live? What do they eat?

Remember to practise your nature documentary. How could you improve it?

  • Add music at the beginning and at the end of your nature documentary.
  • Record your documentary using a recording device.
  • Sit back and watch your nature documentary with family and friends. Enjoy!

 

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.

Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw