Y1 > Welsh > Science_Technology > Design & Technology > Creu rhaglen goginio-tasg lafar

Gan Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu:

  • Esbonio sut i wneud pitsa enfys ar lafar.
  • Explain orally the method of making a rainbow pizza. 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dychmygu eich bod yn gogydd ar raglen goginio yn esbonio i’r gwylwyr sut i fynd at i wneud pitsa enfys. Mwynhewch! In this activity you will imagine you’re a cook on a cooking programme explaining to the viewers how to make a rainbow pizza. Enjoy!

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf gwyliwch y gân yma ‘Coginio’. First listen to this song ‘Coginio’.

Yna gwyliwch ‘Nansi yn y gegin’ yn coginio pitsa. Next watch Nansi making a pizza.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Chi yw’r cogydd, ewch at i gyflwyno eich rhaglen goginio i’r gwylwyr.
  2. Cofiwch ddweud wrth y gwylwyr pa offer a chynhwysion fydd angen ar gyfer creu’r pitsa enfys.
  3. Bydd angen i chi esbonio yn fanwl cam wrth gam sut i fynd at i wneud y pitsa enfys.
  4. Edrychwch ar y pwerbwynt er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer eich rhaglen goginio.
  5. Meddyliwch beth fydd angen gwneud yn gyntaf, wedyn , yna, nesaf, ar ôl hynny…ac ati.
  6. Cofiwch ddefnyddio llais clir wrth esbonio, a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny bob hyn a hyn ar y gwylwyr.
  7. Gofynnwch am help oedolyn i dorri’r llysiau i roi ar ben y pitsa enfys.
  8. Recordiwch eich rhaglen goginio. Beth am ddanfon y rhaglen i’ch ffrindiau er mwyn iddynt ddilyn eich cyfarwyddiadau i wneud pitsa enfys hefyd? Mwynhewch!

 

  1. You are the cook, go ahead and present your cooking programme to the viewers.
  2. Remember to say which equipment and ingredients you’ll need to make your rainbow pizza.
  3. You will need to explain step by step how to make the rainbow pizza.
  4. Look at the PowerPoint to help you prepare for your cooking programme.
  5. Think about what you’ll be doing first, then, after that, next…and so on.
  6. Remember to use a clear voice and make eye contact with the viewers from time to time.
  7. Ask an adult for help when cutting the vegetables to put on top of your pizza.
  8. Record your cooking programme. What about sending it to friends so that they can follow your instructions to make their own rainbow pizza? Have fun!

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Gwyliwch ‘Heini’ yn y bwyty pitsa. Watch ‘Heini’ in the pizza restaurant. HEINI YN Y BWYTY PITSA

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw