Y1 > Welsh > Science_Technology > Design & Technology > Defnyddio unedau mesur safonol i goginio

Gan Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu:

  • Defnyddio unedau mesur safonol er mwyn gwneud cacennau pili-pala
  • Use standard units of measure to make butterfly cakes.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio mesurau safonol er mwyn gwneud cacennau pili-pala. Mwynhewch!In this activity you will learn how to use standard units of measure to make butterfly cakes. Enjoy!

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf gwrandewch ar y stori yma ‘Gŵydd a’i gacennau’.First, listen to this story ‘Gŵydd a’i gacennau’.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnEwch ati i wneud cacennau pili pala gyda help oedolyn gan ddefnyddio’r rysáit.

Pan rydyn ni’n coginio rydyn ni’n pwyso rhywbeth gan ddefnyddio gramau a chilogramau neu fililitrau a litrau. Mae hyn i wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r gyfran gywir o’r cynhwysyn i mewn er mwyn gwneud y cacennau pili-pala perffaith.

Bydd angen clorian er mwyn mesur y cynhwysion yn gywir. Dilynwch y rysáit er mwyn darganfod faint o bob dim fydd angen er mwyn gwneud cacennau pili-pala blasus.

Ydych chi’n gallu darllen pa gynhwysion fydd angen arnoch? Sawl gram o bob cynhwysyn fydd angen ar gyfer gwneud eich cacennau pili-pala? Ydych chi’n gallu pwyso’r cynhwysion?

Ewch ati i wneud eich cacennau pili-pala. Peidiwch fwyta pob un yr un pryd! Mwynhewch!

Go ahead and make your butterfly cakes with the help of an adult using the recipe.

When we are cooking we can weigh something using grams and kilograms or using millilitres and litres. This makes sure we have the right amount of the ingredient we need to make the perfect butterfly cakes.

You will need weighing scales to measure the ingredients. Follow the recipe to find out the right amount of each ingredient you will need to make your butterfly cakes.

Can you read which ingredients you’ll need? How many grams of everything will you need to make your butterfly cakes? Can you weigh the ingredients?

Go ahead and make your own butterfly cakes. Don’t eat them all at once! Enjoy!

Cacennau pili pala

 

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.

Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw