Bwriadau Dysgu:
Casglu a chofnodi data ar y math o adar sy’n ymweld â’ch gardd.
Collect and record data on the type of birds which visit your garden.
Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion
Ydych chi wedi sylwi ar yr adar sy’n ymweld â’ch gardd? Yn y weithgaredd yma byddwch chi’n dysgu am y mathau gwahanol o adar sy’n ymweld â’ch gardd. Bydd yn rhaid i chi arsylwi’n ofalus ar ba adar sy’n hedfan i’ch gardd a chofnodi ar eich tabl, pob tro byddwch chi’n gweld y math yna o aderyn. Ar ôl hynny gallwch lunio neu adeiladu graff bloc o’ch canlyniadau. Pob hwyl!
Have you noticed the birds which visit your garden? In this activity you will learn to recognise the different types of birds which come and visit. You will need to look closely at the birds which fly into your garden and record on your data table, each time you see a particular bird. Then draw or build a block graph of your results. Enjoy!
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Yn gyntaf edrychwch yn ofalus ar y pwerbwynt ar y mathau o adar bydd efallai’n ymweld â’ch gardd chi heddiw. Ydych chi’n medru adnabod ac enwi rhai o’r adar? Pa rai sydd wedi ymweld â’ch gardd chi o’r blaen? Sut ydych chi’n adnabod y gwahaniaeth rhwng pob aderyn? A oes rhywbeth yn debyg amdanynt? Beth yw eich hoff aderyn a pham?
Look carefully at the powerpoint of the different birds, you might see one or two of them today during your bird watch. Can you recognise and name some of the birds? Which ones come and visit you garden? How can you tell the difference between each bird? Are there any similarities? Which one is your favourite bird and why?
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
- Edrychwch ar y pwerbwynt ‘Mathau o adar’ a cheisiwch ddysgu a chofio enwau’r adar bach. Trafodwch yr adar gyda person arall yn eich tŷ. Beth sy’n gwneud pob aderyn yn wahanol? A oes rhywbeth yn debyg amdanynt? Beth yw eich hoff aderyn a pham? Look carefully at the powerpoint ‘Mathau o adar’. Try to learn and name the birds you see. Discuss the birds with another member of your household. What makes each bird different? Are there any similarities? Which is your favourite bird and why?
- Edrychwch ar y pwerbwynt ‘Casglu Data’. Mae’n dangos i chi sut i gofnodi pob tro byddwch chi’n gweld aderyn yn defnyddio marciau rhicbren neu drwy dicio. Look at the powerpoint ‘Casglu Data’. It shows you how to record each time you see a bird using tally marks or by ticking each time you see that particular bird.
- Lleolwch eich hun mewn lle tawel yn yr ardd e yn agos i fwrdd adar neu goeden. Penderfynwch am faint o amser byddwch chi’n gwylio’r adar. Find a quiet spot outside in the garden e.g close to a bird table or a tree. Decide how long you will watch the birds.
- Defnyddiwch y daflen ‘Beth welsoch chi?’ er mwyn cofnodi pa adar sy’n ymweld â’ch gardd. Cofnodwch bob aderyn gan ddefnyddio llinellau rhicbren neu drwy dicio. Ar ddiwedd yr amser gwylio, cyfrwch y marciau rhicbren neu’r ticiau a chofnodwch y cyfanswm ar y daflen. Use your ‘Beth welsoch chi?’ sheet to record the birds you see. Record each bird you see using tally marks or by ticking. After you’ve finished watching the birds, record the total number of birds you saw.
- Ewch ati i greu graff bloc o’ch canlyniadau gan ddefnyddio rhaglen J2e/ ar bapur neu gan ddefnyddio blociau lego. Pa adar welsoch chi? Beth oedd enw’r aderyn mwyaf/lleiaf poblogaidd a ddaeth i ymweld â’ch gardd? Beth oedd y cyfanswm o adar welsoch chi? Make a block graph of your results using J2e/ on a piece of paper or by using lego blocks. Which birds did you see? Which was the most/least popular bird that visited your garden? How many birds did you see altogether?
Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)
Chwaraewch gêm o ‘Rwy’n gweld gyda fy llygaid bach i?’ yn defnyddio’r lluniau isod.Play a game of ‘I spy with my little eye?’ by looking at the pictures below.
Rwyn-gweld-gyda-fy-llygaid-bach-i
Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein