Y1 > Welsh > Science_Technology > Science > Adnabod patrymau cymesur

Gan Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu:

Adnabod patrymau cymesur yn y byd o’ch cwmpas.

To recognise symmetrical patterns in the world around you.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Ydych chi wedi sylwi ar yr holl batrymau cymesur sydd o’ch cwmpas? Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dysgu sut i adnabod patrymau cymesur ac yn chwilio amdanynt yn y byd o’ch cwmpas.

Have you noticed the symmetrical patterns that are all around you? In this activity you will learn how to recognise symmetrical patterns and look for them in the world around you.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf gwrandewch ar stori ‘Waldo a’i we wych’. Mae Waldo yn ceisio creu gwe gan ddefnyddio siapiau gwahanol 2D. Pa siâp fydd y gorau ar gyfer creu gwe tybed?

Listen carefully to the story ‘Waldo a’i we wych’. Waldo wants to create a web using different 2D shapes. Which shape will be the best shape to create his web I wonder?

Nesaf, edrychwch ar y pwerbwynt ‘Cymesuredd’. Mae’n dangos i chi sut i adnabod patrymau cymesur. Mae gwrthrychau a siapiau yn medru bod yn gymesur. Er mwyn gwirio os yw siâp yn gymesur, tynnwch linell trwy ganol y siâp i greu dau hanner.  Os ydynt yn adlewyrchu ei gilydd, mae’r siâp yn gymesur. Ydych chi wedi sylwi ar batrymau cymesur yn y byd o’ch cwmpas?

Next look carefully at this powerpoint ‘Cymesuredd’ it shows you how to recognise symmetrical patterns. An object or shape can be symmetrical if you can draw a line through the middle and create two halves that reflect each other. Have you seen symmetrical patterns in the world around you?

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf gwrandewch ar stori ‘Waldo a’i we wych’. Ydych chi’n adnabod y siapiau 2D sy’n ymddangos yn y llyfr? Pa siapiau defnyddiodd Waldo er mwyn creu ei we? Listen to ‘Waldo a’i we wych’ being read. Do you recognise the 2D shapes Waldo used to create his web? Which shapes did he use?
  2. Nesaf, edrychwch yn ofalus ar y pwerbwynt ‘Cymesuredd’. Mae’n esbonio i chi fod gwrthrychau a siapiau yn medru fod yn gymesur. Er mwyn gwirio os yw siâp yn gymesur, tynnwch linell trwy ganol y siâp i greu dau hanner.  Os ydynt yn adlewyrchu ei gilydd, mae’r siâp yn gymesur. Ydych chi wedi sylwi ar batrymau cymesur yn y byd o’ch cwmpas? Next look carefully at this powerpoint ‘Cymesuredd’. It explains to you that an object or shape can be symmetrical if you can draw a line through the middle and create two halves that reflect the same. Can you think of symmetrical patterns in the world around you?
  3. Ewch am dro a chwiliwch am batrymau cymesur yn y byd o’ch cwmpas. Efallai yr hoffech dynnu llun y patrymau yma. Beth welsoch chi ar eich taith? Pa siapiau welsoch chi? Go for a walk and look out for symmetrical patterns around you. You might like to take photographs of these patterns. What did you see on your walk? Which shapes did you see?

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.

Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw