Y1 > Welsh > Science_Technology > Science > Arnofio a Suddo

Gan Bethan Lewis

Bwriadau dysgu:

  • Cynnal arbrawf er mwyn darganfod pethau sydd yn suddo a phethau sydd yn arnofio.
  • Conduct an experiment to find items that float and items that sink.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn dysgu am arnofio a suddo trwy ddod o hyd i lawer o wahanol eitemau o amgylch eich tŷ a’u gollwng i dwb o ddŵr i weld os ydyn nhw’n arnofio neu’n suddo. Ar ôl rhoi cynnig ar rai eitemau, byddwch chi’n dod yn wyddonwyr ac yn gwneud rhagfynegiadau!

In this activity you will learn about floating and sinking by finding lots of different items from around your house and dropping them into a tub of water to see if they float or sink. After trying a few you’ll become scientists and make predictions!

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Gwyliwch y fideo hwn a siaradwch am yr hyn sy’n digwydd. Mae rhai eitemau yn cwympo’r holl ffordd i waelod y bowlen, rydym yn galw hyn yn suddo, mae’r lleill yn aros ar wyneb y dŵr, rydym yn galw hyn yn arnofio!Llenwch bowlen golchi neu rywbeth tebyg gyda dŵr a dewiswch 5 eitem o amgylch eich tŷ. Gollyngwch nhw i’r dŵr fesul un a gwyliwch beth sy’n digwydd. Trefnwch yr eitemau mewn i ddau grŵp – pethau sy’n arnofio a phethau sy’n suddo.  Trafodwch pam rydych chi’n meddwl gwnaeth yr eitemau arnofio neu suddo.

Watch the video and talk about what’s happening.  Some of the items fall all the way to the bottom of the bowl, this is called sinking, the others stay on the surface, this is called floating!

Fill a washing up bowl or something similar with water and choose 5 items from around your house. Drop them into the water one by one and see what happens. Sort them into two groups – items that float and things that sink.  Discuss why you think the items float or sink.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo uchod a thrafodwch yr hyn sy’n digwydd.
  2. Nesaf, llenwch bowlen gyda dŵr ac arbrofwch gyda 5 eitem i weld os ydyn nhw’n arnofio neu’n suddo.
  3. Trefnwch yr eitemau mewn i ddau grŵp, eitemau sy’n suddo ac eitemau sy’n arnofio.
  4. Trafodwch pam rydych chi’n meddwl y mae pob eitem yn ei grŵp.
  5. Nawr eich bod yn gwybod ychydig am arnofio a suddo, mae’n bryd i chi ddod yn wyddonwyr. Defnyddiwch y daflen hon i gynnal arbrawf arnofio a suddo. Cofiwch wneud eich rhagfynegiadau yn gyntaf ac yna rhoi eich canlyniadau. Mae yna hefyd tabl gwag fel y gallwch ddewis eich eitemau eich hun!
  1. Firstly, watch the video and discuss what’s happening.
  2. Next, fill a bowl with water and experiment with 5 items to see if they float or sink.
  3. Sort the items into two groups; items that sink and items that float.
  4. Discuss why you think each item might be in their group.
  5. Now that you’ve got to know a little about floating and sinking, it’s time to become a scientist. Use the sheet to conduct a floating and sinking experiment. Remember to make your predictions first and then your results. There is also a blank table so that you can choose your own items!

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Beth am geisio creu cwch sydd yn arnofio? Ydy’r cwch yn gallu cario pethau heb suddo?

Why not try to create a boat that floats? Can your boat carry things without sinking?

 

Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf gynnal arbrawf am suddo ac arnofio / I can experiment with floating and sinking

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf wneud rhagfynegiadau / I can make predictions

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw