Y1 > Welsh > Science_Technology > Science > Helfa trychfilod-casglu a defnyddio data

Gan Beth Lewis

Bwriadau Dysgu:

Casglu a chofnodi data ac yna dadansoddi, didoli trychfilod.

Collect and record data and then analyse, sort minibeasts.

 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch yn mynd ar helfa trychfilod yn eich gardd. Bydd angen i chi gyfri faint o bob creadur rydych chi’n gweld ac yna gwneud nodyn o’r cyfanswm.  Gallwch gofnodi trwy ddefnyddio siart rhicbren (cyfri – 1 2 3 4 croesi!). Yna, gallwch greu graff o’ch canlyniadau a dadansoddi pa fath o fywyd gwyllt sydd gennych chi yn eich gardd.

In this activity you will go on a mini-beast hunt in your garden. You will need to make a tally chart (1 2 3 4 cross!)  to record how many of each creature you see and make a note of the total. Then, you can create a graph of your results and analyse what sort of mini-beasts you have in your garden.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf, gwyliwch y fideo yma am gân y trychfilod, allwch chi restri pob un sydd yn cael ei enwi yn y gân? (Mae 6 i gael!) Mae rhagor o drychfilod yn y fideo sydd heb eu henwi, ydych chi’n medru eu gweld?Edrychwch ar y daflen helfa trychfilod er mwyn sicrhau eich bod yn adnabod pob un. Yna, bant â chi i’r ardd i hela! Sicrhewch eich bod yn cofio sut i wneud siart rhicbren (cyfri) cyn mynd (1 2 3 4 croesi!)

First, watch the video which shows a song about mini-beasts, can you list all of the mini-beasts named in the song? (There are 6 to find) There are more in the video which aren’t named, which ones can you see? Have a look at the mini-beasts hunt sheet to make sure you recognize each one. Then, off you go to the garden to hunt! Make sure you remember how to make a tally chart before you go (1 2 3 4 cross! )

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Gwrandewch ar y gân trychfilod yn ofalus a cheisiwch restri’r holl drychfilod rydych yn eu clywed yn y gân ac yn eu gweld ar y sgrîn (nid oes angen gwneud hyn ar bapur, gweiddwch nhw allan!) Mae 6 wedi’u henwi yn y gân a hyd yn oed mwy yn cuddio ar y sgrin! Listen to the mini-beast song carefully. Try and list all the mini-beasts you hear in the song and you see on the screen (this doesn’t need to be completed on paper, just shout them out!) There are 6 mentioned in the song and even more hiding on the screen!
  2. Edrychwch ar y daflen helfa trychfilod i sicrhau eich bod yn adnabod pob un ac yn gwybod beth rydych yn edrych amdano. Ar y daflen, mae lle i gyfri trwy lenwi siart rhicbren (cyfri) ac i ysgrifennu’r cyfanswm. Peidiwch â phoeni os na allwch argraffu, gallwch greu un eich hun trwy dynnu lluniau neu gymryd rhestr o’r holl drychfilod tu allan gydag enw’r lle ar bwys pob un ar gyfer cyfri! Atgoffwch eich hun sut i greu siart rhicbren (cyfri) cyn dechrau. Have a look at the mini-beast hunting sheet to check you recognize all and know what you are looking for. On the sheet there is a space to make a tally and to write the total. Don’t worry if you can’t print it out, you could make your own by drawing pictures or simply make a list of all the mini-beasts outside with space for a tally next to each! Remind yourself how to make a tally before starting.
  3. Rhowch derfyn amser i’ch hun ar gyfer pa mor hir y byddwch yn chwilio ac unwaith y bydd amser ar ben ysgrifennwch eich cyfansymiau. Give yourself a time limit for how long you will search for and once time is up, write your totals.
  4. Nesaf, recordiwch eich canlyniadau mewn graff (nid oes angen i chi gynnwys pob trychfil ar eich graff, dewiswch 4 neu 5, neu crëwch mwy nag un graff) gallwch chi wneud eich graff mewn sawl ffordd gwahanol fel:
  • Creuwch graff awyr agored mawr fel yr enghraifft
  • Defnyddiwch Jit ar HWB
  • Tynnwch lun graff ar bapur.

Next, put your results into a graph (you don’t need to include all of the mini-beasts onto your graph, just choose 4 or 5, or create more than one graph) you can make your graph in many different ways such as

  • Create a large outdoor graph like the example above
  • Use Jit on HWB
  • Draw a graph on paper.

Helfa-trychfilod

Graffio-tu-allan

5. Answer these questions about your graph, you can do this orally. (see above) / Atebwch y cwestiynau hyn am eich graff, gallwch wneud ar lafar.

Helfa-trychfilod

Cwestiynau-graffio-pdf

Dyma daflen geirfa trychfilod Here is a minibeast vocabulary sheet

Graffio-tu-allan

 

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Ar ol cwblhau eich graff beth am ddidoli’r trychfilod rydych wedi gweld? Mae syniadau ar y taflenni yma a gallwch creu meini prawf eich hunain. (Nid oes rhaid argraffu’r tudalennau, gallwch ddidoli trwy greu cylchoedd mawr ar y llawr ayyb.)

After completing your graph why not sort the mini-beasts you have seen? These sheets (above) have ideas and you can create your own criteria. (The sheets do not have to be printed, you can sort by creating large circles on the floor etc.)

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw