Y1 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Adnabod dyddiau’r wythnos a chreu dyddiadur

Gan Nia Bevan

Bwriadau Dysgu:

Adnabod dyddiau’r wythnos a chreu dyddiadur.

Recognising days of the week and creating a diary.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Pwrpas y dasg hon yw i ddysgu dyddiau’r wythnos ar gof. O ganlyniad, bydd eich plentyn yn medru creu dyddiadur o Ddydd Llun i Ddydd Sul; tynnu llun, ysgrifennu geiriau a chreu brawddegau am yr hyn maent wedi bod yn gwneud yn ystod yr wythnos.

The purpose of this task is to memorise days of the week in Welsh. As a result, your child will be able to create a diary from Monday – Sunday; drawing pictures, writing words and forming sentences about what they have been doing during the week.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Gwyliwch y fideo isod er mwyn dysgu dyddiau’r wythnos. Mae’n bwysig i annog eich plentyn i ymuno â’r gan ac i’w wylio mwy nag un waith er mwyn helpu cofio’r dyddiau.

Watch the video below to learn the days of the week in Welsh. It’s important to encourage your child to join in with the song and to watch it more than once to help remember the days of the week.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Gwylio’r fideo yn annibynnol ac ymuno â’r gan. Watch the video independently and join in with the song.
  2. Trefnu dyddiau’r wythnos gydag oedolyn; defnyddiwch y geiriau isod neu ewch ati i ysgrifennu rhai eich hun ac yna eu trefnu’n gywir. Ordering the days of the week with an adult; using the words below or write them out yourself and order them correctly.
  3. Creu dyddiadur wythnos, un dydd ar y tro (gallwch wneud hyn trwy argraffu’r templed isod neu ar bapur). Tynnwch luniau, ysgrifennwch eiriau/frawddegau i ddisgrifio’r hyn maent wedi bod yn gwneud. Gallwch ofyn eich plentyn cwestiynau i helpu ysgrifennu’r dyddiadur megis; Pa dywydd sydd heddiw? Beth rwyt ti wedi bod yn gwneud? Ble/beth wyt ti wedi bod yn chwarae? Beth wyt ti wedi bwyta heddiw? Beth oedd dy hoff ran o’r dydd? Mae’n bwysig bod eich plentyn yn medru ysgrifennu yn y Gymraeg, neu drafod eu lluniau yn y Gymraeg. Mae banc geirfa isod i’w helpu. Create a diary entry for 1 week, 1 day at a time (this can be done by printing the template below or on paper). Draw pictures, write words/sentences to describe what they have been doing. You can ask questions in order to help them think of what to write; What is the weather like today? What have you been doing today? Where/what have you been playing? What have you eaten today? What was your favourite part of the day? It’s important to encourage them to write as much as they can in Welsh or discuss their drawings in Welsh. There’s a word bank below to help.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

  • Gofyn iddynt ddysgu dyddiau’r wythnos yn y Gymraeg i chi neu aelod arall o’r teulu. Ask them to teach you or another family member the days of the week in Welsh.
  • Creu dyddiadur fideo o’r wythnos gan ddefnyddio eu dyddiadur ar bapur i’w helpu. Create a video diary of what they have done each day, using their paper diary to help.

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw