Y1 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Creu albwm o luniau teuluol

Gan Catrin Davies

Bwriadau Dysgu:

  • Dysgu am y gorffennol.
  • To learn about the past.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Mae plant o hyd yn hoffi edrych ar hen luniau a dysgu mwy am eu gorffennol, felly ewch i nôl yr albymau lluniau a chael cip olwg ar y gorffennol.

Children love looking at old photos and hearing stories, so find those old photo albums and have a look at the past.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Ewch ati i chwilio am eich ffotograffau teuluol a gyda’ch gilydd porwch drwy’r hen luniau er mwyn hel atgofion melys.  Efallai gallwch wneud albwm bach o’ch hoff luniau? Gwyliwch y fideo am syniad syml.

Dig out all those lovely family photographs and albums and talk to your child about their past.  Be prepared for lots of questions. They might want to make their own photo album. Watch the video and it will give you a simple idea on how to start.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Bydd yn rhaid i chi nelltio peth amser i eistedd gyda’ch plentyn i fynd drwy’r lluniau. Siaradwch am y lluniau a byddwch yn barod am lwyth o gwestiynau diddorol.  Dewiswch eich hoff luniau a gwnewch albwm arbennig. Gallwch greu albwm am eich gwyliau teuluol, eich bywyd ers yn fabi neu unrhyw ddigwyddiad arbennig neu weithgareddau godidog eraill, penderfynwch chi. Peidiwch ag anghofio cynnwys rhywfaint o ysgrifen yn eich albwm arbennig.  Byddwch yn greadigol a mwynhewch!

You will need to dedicate a little time during this activity to dig out those albums and go through the photographs with your child.  It will be great to look back at so many special memories. Be ready for some interesting questions.  Play around with the photographs and make your own special album, for example, you could make a family holiday album, milestones album, special achievement etc. – you decide. It would be lovely if you could include some writing in your special album. Be creative and enjoy!

Creu Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Beth am greu coeden deulu?  Gwyliwch y fideo am syniad syml.  Byddwch mor greadigol â phosib. Pob hwyl!

Why not try making your very own family tree? Watch this video for a simple idea. Be as creative as you like. Enjoy!

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw