Y1 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Creu stribed comig ar gyfer stori Supertaten

Gan Nia Bevan

Bwriadau Dysgu:

Creu stribed comig ar gyfer diweddglo stori ‘Supertaten’.

Create a comic strip for the ending of the ‘Supertaten’ story

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Bwriad y gweithgaredd yw i ddisgyblion i orffen y stori. Byddant yn gwrando ar ran gyntaf y stori a bydd y diweddglo ar goll. Bydd angen iddyn nhw feddwl am ddiweddglo addas i’r stori.

The purpose of the activity is for pupils to finish the story. They will listen to the first part and the ending will be ‘missing’. They will need to create a suitable ending for the story.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Agorwch y stori isod a gwrandewch arni yn ofalus (mae botwm sain ar bob sleid).  Wrth wrando ar y stori, gofynnwch i’ch plentyn beth yw enw pob cymeriad.  Bydd hyn yn datblygu geirfa eich plentyn gan ffocysu ar enwau’r llysiau.

Open the story below and listen to each slide carefully (there’s a sound button on each slide). Whilst listening to the story, ask your child what the names for the characters are.  This is to develop your child’s vocabulary and focus on the names of the different vegetables.

Yna, esboniwch i’ch plentyn bod gweddill y stori ar goll. Gofynnwch iddo/iddi; “Sut gallwn ni helpu?” Gobeithio y bydd eich plentyn yn awgrymu ysgrifennu diweddglo! Os nad ydynt, awgrymwch y syniad iddo/iddi drwy ofyn cwestiynau addas; “A oes modd i ni ysgrifennu un?”

Then, explain that the rest of the story is missing and ask, “How can we help?”.  Hopefully your child will suggest writing an ending! If not, you may need to suggest the idea by asking some appropriate questions, for example; “Could we write one?”

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Ysgrifennu diwedd y stori fel stribed comig. Gall eich plentyn defnyddio’r templed isod neu gallwch greu un tebyg ar ddarn o bapur neu ar JiT. Defnyddiwch y mat geirfa i helpu os oes angen. Er mwyn targedu lefel dysgu cywir eich plentyn, mae’n bosib gwneud y dasg mewn ffyrdd gwahanol os ydych yn dymuno. Writing an ending for the story in a comic strip form. This can be completed on paper using the template below or drawing boxes and lines yourself on paper or on JiT. There is a word mat to help as well. In order to target the correct level of learning for your child, it’s possible to complete the task in various ways if you wish to do so –
  2. Creu lluniau yn unig a’u hesbonio ar lafar yn y Gymraeg. Create pictures only and explain them in Welsh orally.
  3. Creu’r lluniau gyda geiriau yn unig yn y Gymraeg. Create pictures with simple words in Welsh to correspond with each picture.
  4. Ysgrifennu 1 brawddeg syml i gyfateb gyda phob llun gan ddilyn patrymau brawddeg megis ‘Aeth Supertaten i….’ / ‘Dyma’r bysen yn….’. Write 1 simple sentence per picture, following a sentence pattern ‘Aeth Supertaten i….’ (‘Supertaten went to…’)/ ‘Dyma’r bysen yn….’ (‘Here’s the pea …’).
  5. Ysgrifennu brawddegau llawn gan ddefnyddio’r mat geirfa i’ch helpu. Write full sentences using the word mat to help.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Mat Geirfa

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Gan ddefnyddio llysiau o’ch tŷ neu gallwch greu pypedau eich hun, actiwch y stori a’i recordio. Yna, lanllwythwch eich fideo i’ch ffeil Hwb.

Using vegetables from your home as puppets or you can create your own, act out the story and then record it. Next, upload your video to your Hwb file.

  • Tynnwch lun o’ch hoff gymeriad ac ysgrifennwch eiriau o’i hamgylch i’w ddisgrifio. Draw a picture of their favourite character and write words around it to describe.
  • Dyluniwch fagl i helpu Supertaten dal unrhyw ddihirod! Design a trap to help Supertaten catch any villains!
  • Rhewch daten mewn dŵr a gofynnwch i’ch plentyn i ‘achub’ y daten. Freeze a potato in water and ask the child to ‘save’ it.
  • Defnyddiwch lysiau fel stampiau paent. Use vegetables as paint stamps.
  • Blaswch y llysiau sydd yn y stori. Taste the vegetables which are mentioned in the story.

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw