Y1 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Trefnu geiriau yn nhrefn yr wyddor

Lesson by Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu:

Trefnu geiriau yn nhrefn yr wyddor.

Arrange words in alphabetical order.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Ydych chi’n adnabod holl lythrennau’r wyddor Gymraeg? Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dysgu’r wyddor ac yn  trefnu geiriau yn nhrefn yr wyddor.

Do you recognise every letter in the Welsh alphabet? In this activity you will learn to recite the alphabet and organise words into alphabetical order.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf gwrandewch ar gân yr wyddor gan Cyw. Mae llawer o lythrennau yn yr wyddor Gymraeg. Ydych chi’n medru cyfri sawl llythyren sydd yn yr wyddor i gyd?

Listen to the Cyw alphabet song. There are many letters in the Welsh alphabet. Can you count how many letters there are altogether?

Nesaf dysgwch gân yr wyddor gan Gymraeg i Blant. Sawl llythyren sydd yn yr wyddor? Pa lythyren yw’r cyntaf yn yr wyddor?

Pa lythyren yw’r diwethaf yn yr wyddor? Ydych chi’n gallu gweld lle mae llythrennau eich enw chi yn yr wyddor?

Next learn this alphabet song by Cymraeg i Blant. How many letters are there altogether? Which letter comes first in the alphabet?

Which letter comes last in the alphabet?  Can you find the letters of your name in the alphabet?

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf gwrandewch ar gân yr wyddor.
    Listen to the alphabet song.
  2. Nesaf dysgwch gân yr wyddor. Trafodwch pa lythrennau rydych chi’n gweld a’r ddechrau’r wyddor, yng nghanol yr wyddor ac ar ddiwedd yr wyddor.
    Next learn the alphabet song. Discuss which letters you see at the beginning of the alphabet, in the middle of the alphabet and at the end of the alphabet.
  3. Yna, casglwch 5 peth fedrwch chi weld o gwmpas y tŷ neu y tu allan sy’n dechrau gyda llythrennau gwahanol. Next collect 5 items you see around the house or outside beginning with different letters.
  4. Ysgrifennwch restr o’r pethau yma yn nhrefn yr wyddor drwy edrych ar y lythyren gyntaf mae eich gwrthrychau’n dechrau gyda. Defnyddiwch yr wyddor Gymraeg i’ch helpu.
    Write a list of the items you collected in alphabetical order by looking at the first letter your objects begins with. Use the Welsh alphabet to help you.
  1. Ewch ati i greu rhestrau gwahanol yn nhrefn yr wyddor e.e enwau eich teulu, enwau eich ffrindiau, eich hoff fwyd, lliwiau’r enfys, enwau blodau neu drychfilod bach.
    Write different lists in alphabetical order e.g names of people in your family, names of your friends, rainbow colours, names of flowers or mini-beasts.
  2. Cofiwch, os ddewch chi ar draws dau air sy’n dechrau gyda’r un llythyren mae’n rhaid i chi edrych ar yr ail lythyren er mwyn gosod yn y drefn gywir.
    Remember if you come across words beginning with the same letter, you then need to look at the second letter and place them in the correct order.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Beth am ddysgu’r wyddor gan ddefnyddio iaith arwyddion? Edrychwch yn ôl dros gân yr wyddor a cheisiwch greu eich enw a’r wyddor gan ddefnyddio iaith arwyddion. Beth am fynd ati i feddwl am air sy’n dechrau gyda phob llythyren yn yr wyddor? Gwnewch restr o’r geiriau yma.

How about learning the alphabet using sign language? Look back over the alphabet song and learn how to sign your name and the alphabet. Can you think of a word for every letter in the alphabet? Make a list of these words.

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw