Bwriadau Dysgu:
- I ddefnyddio’ch sgiliau meddwl i ddarganfod set o ddymuniadau delfrydol ar gyfer ein byd.
- To use your thinking skills to create a set of ideal wishes for our world.
Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion
Yn y gweithgaredd yma mae angen i chi astudio’r goeden yn y llun a didoli’r dail mewn i setiau, byd delfrydol a phethau dydyn ni ddim eisiau yn ein byd delfrydol. Does dim angen y We ar gyfer hyn, dim ond papur, pensil a lliwiau.
In this activity you need to study the tree in the picture and sort the leaves in to two sets, a perfect world, and things that we do not want in our perfect world. You do not need the Internet for this, just paper, a pencil and colours.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Does unman yn berffaith. Does dim modd newid pob dim bob tro. Ond mae’n bosibl meddwl yn ofalus a gwneud newidiadau bach. Bydd hyn yn gwneud y byd yn lle gwell i ni ac i bobl eraill.
Nowhere is perfect. We cannot always change everything. But we can think carefully and make small changes. This way we could make the world a better place for ourselves and for others.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
Gwrandwech ar gân Alis Glyn – “Ar ôl hyn”.
Listen to Alis Glyn’s song – “Ar ôl hyn”.
Edrychwch ar y goeden yma. Mae wyth peth mae pobl eu heisiau mewn byd delfrydol ac wyth peth dydy pobl ddim eu heisiau.
- Allwch chi ddidoli’r dail mewn i ddwy restr? Pethau delfrydol a phethau dydy pobl ddim eu heisiau.
- Edrychwch ar yr wyth peth mae pobl eu heisiau. Rhowch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd, gan ddechrau gyda’r pwysicaf, yn eich barn chi.
Look at this tree. On the tree there are eight things that people would wish for in an ideal world, and eight that people do not want.
- Can you sort the leaves into two lists? Things that people wish for in one list and things that people do not wish for in another.
- Look at the eight things people would like. Put them in the order of importance, starting with the most important, in your opinion.
Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)
Her:Yn eich barn chi beth fyddai’n gwneud ysgol ddelfrydol. Ewch ati i greu coeden ddymuniadau i rannu’ch syniadau ynglŷn â sut le fyddai eich ysgol ddelfrydol.
Challenge:
In your opinion what would make a perfect school. Create a tree of wishes to share your ideas about your perfect school.
Cam 5: Llwytho eich gwaith i fyny
Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein