Y3 > Welsh > Health_Wellbeing > PSE > Gwerthuso Cerddoriaeth Chwaraeon

 Lesson by Ffion Rodgers

Bwriadau dysgu:

  • I werthuso cerddoriaeth chwaraeon.
  • To appraise sport music.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Gweithgaredd ar-lein yw hwn lle gofynnir i blant wrando ar glipiau cerddoriaeth penodol ar YouTube a chwblhau cyfres o dasgau mewn dogfen Word.

This is an online activity where children are asked to listen to specific music clips on YouTube and complete a series of tasks in a Word document.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Ydych chi erioed wedi meddwl pa mor bwysig yw cerddoriaeth mewn chwaraeon? Pan fyddwn ni’n dechrau edrych, rydyn ni’n gallu gweld sawl enghraifft.

Have you ever thought of how important music is in sport? When we start searching, we can hear many examples.

Pan oedd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Ewrop 2016, roedd yna lawer o gerddoriaeth wedi’i creu iddyn nhw. Eu hanthem swyddogol oedd ‘Together Stronger’ gan y Manic Street Preachers.

When the Wales football team was playing in the 2016 European Football Championship, there was a lot of music dedicated to them. Their official anthem was ‘Together Stronger’ by the Manic Street Preachers.

Yn ystod yr un flwyddyn, ail-recordiodd band Candelas gân glasurol ‘Rhedeg i Paris’ a ddaeth yn ffefryn cadarn gyda chefnogwyr Cymru wrth iddynt wylio Cymru yn chwarae yn Ffrainc.

During the same year, the band Candelas re-recorded a classic song ‘Rhedeg i Paris’ which soon became a firm favourite with the Welsh supporters too as they watched Wales play in France.

Dewiswch un o’r caneuon i wrando arni eto.

  • Sut mae’n gwneud i chi deimlo?
  • Beth mae’r gerddoriaeth yn gwneud i chi feddwl amdano?
  • A oes ganddo ran sy’n aros yn eich pen? A fyddwch chi’n ei hymian trwy’r dydd?
  • Sut mae’r geiriau yn gwneud i chi deimlo?
  • Ysgrifennwch rai o’r geiriau neu’r ymadroddion y gallwch chi eu clywed.

Choose to listen to one of the songs again.

  • How does it make you feel?
  • What does the music make you think of?
  • Does it have a catchy part? Will you be humming it all day?
  • How do the words (lyrics) make you feel?
  • Write some of the words or phrases you can hear.

Yn sicr, gall cerddoriaeth ennyn emosiwn. Gall eich gwneud chi’n gyffrous, yn falch neu hyd yn oed yn drist.  

Music can certainly evoke emotion. It can make you excited, proud or even sad.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnMae mwy o enghreifftiau o gerddoriaeth mewn chwaraeon isod, y tro hwn fel alawon thema teledu. Gwrandewch ar y gerddoriaeth a chwblhewch y tasgau.

There are more examples of music in sport below, this time as TV theme tunes. Listen to the music and complete the tasks.

  • Peidiwch anghofio uwchlwytho’ch gwaith i Hwb.
  • Don’t forget to upload your work to Hwb.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Beth am ehangu eich gwybodaeth gerddorol?  How about extending your musical knowledge?

BBC  BITESIZE – Cerddoriaeth / Music  

 

Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf esbonio’r teimladau y mae darn o gerddoriaeth yn eu dwyn i gof. / I can explain the feelings that a piece of music evokes.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf werthuso cerddoriaeth. / I can appraise music.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw