Y3 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Paratoi a chyflwyno sioe bypedau i blant

Lesson by Sara Jones

Bwriadau Dysgu:

Paratoi a chyflwyno stori i blant ifanc.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y dasg hon bydd plant yn paratoi ac yn cyflwyno sioe bypedau ar eu hoff lyfr. I baratoi byddant yn meddwl am hoff lyfr a oedd ganddynt pan oeddent yn iau ac yn ysgrifennu’r stori ar ffurf sgript yn barod i’w chyflwyno.

In this task children will prepare and present a puppet show on their favourite book. To prepare they will think of a favourite book that they had when they were younger and write the story in script form ready to present.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Heddiw byddwn yn mynd ati i baratoi a chyflwyno stori i blant ifanc. 

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnEich tro chi nawr! / It’s your turn now!

Tasg 1

Meddyliwch am eich hoff stori chi pan oeddech chi’n blentyn 4/5 mlwydd oed. Beth oedd yn arbennig am y stori i chi? Ewch i chwilio am eich llyfr arbennig a darllenwch y llyfr eto. Ysgrifennwch froliant newydd i’r stori.

Task 1

Think about your favourite book when you were 4/5 years old. What was special about the book? Look for that special book and give it another read. Try and write a new blurb for the book.

Tasg 2

Ewch ati i ail-ysgrifennu’r stori mewn ffurf sgript. Hoff stori fy mechgyn i yw ‘Y Gryffalo.’ Yn gyntaf, rhaid creu rhestr o’r prif gymeriadau. Cyn ysgrifennu’r sgript, ystyriwch pwy fydd ar gael i helpu chi i gyflwyno’r stori? O ganlyniad i hyn, efallai bydd angen addasu’r sgript. Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ysgrifennu sgript, cliciwch ar y linc isod.

Task 2

Re-write a version of that favourite book in the form of a script. My sons are young and they adore ‘The Gruffalo.’ Firstly, write a list of the main characters. Before you write your script, consider who will be available to help you present the story. As a result of this, you may need to adapt the script. For more information on script writing, click on the link.

Bitesize

Tasg 3

Sesiwn creu sydd nesaf! Rhaid ystyried yr adnoddau bydd angen arnoch chi. Defnyddiais i hen focs esgidiau i greu cefndir cadarn a gallwch chi greu cymeriadau gyda’r darnau o gardfwrdd ychwanegol.

Task 3

A creative session will be next. Consider the resources you will need. I used an old shoe box to create a firm background and made the characters out of the offcuts.

Tasg 4

Yna, mae’n amser i gyflwyno eich sioe. Cofiwch eich nod yw perfformio i gynulleidfa ifanc e.e. meithrin/ derbyn. Sicrhewch fod eich llais yn glir ac yn llawn mynegiant. Os nad oes aelod ifanc yn eich teulu chi efallai gallwch chi anfon y perfformiad i’ch ysgol er mwyn rhannu gyda’r dosbarthiadau cynnar.

Task 4

It is now time to present your show. Your aim is to perform to a young audience e.g. nursery/reception. Make sure that your voice is clear and full of expression. If you haven’t got a young member in your family, maybe you could share your performance with the early years in your school.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.

Cam 4: Llwytho eich gwaith i fyny

Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein 

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw