Y3 > Welsh > Maths_Numeracy > Statistics and probability > Creu ffeil o ffeithiau am y robin goch

By Author Amanda Lawrence

 

Bwriadau Dysgu: 

Creu ffeil o ffeithiau am y Robin Goch / To create a fact file about the Robin.

 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Bydd y gweithgaredd yma’n helpu chi i ddarganfod mwy am adar yn yr ardd.  Mae angen casglu gwybodaeth trwy wylio fideo a darllen gwybodaeth cyn creu ffeil o ffeithiau eich hunain.This activity will help you to discover more about garden birds.  You will need to collect some information by watching a video and reading some information before completing your own factfile. 

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Beth yw aderyn?Mae aderyn yn anifail sydd â gwaed cynnes, asgwrn cefn, plu, adenydd, dwy goes a phig.

Mae adar yn hoffi dod i gerddi yn ardaloedd gwledig, trefi a dinasoedd.

Gwyliwch yr aderyn yn y fideo isod, ydych chi’n adnabod yr aderyn?

 

What is a bird?

A bird is an animal which has warm blood, a back bone, feathers, wings, two legs and a beak.

Birds like to visit gardens in the countryside, in towns and cities.

Watch the bird in the video below, do you recognise the bird?

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Darllenwch y ffeithiau am y Robin Goch:

Read the facts about the Robin:

 

Fel arfer, dim ond un robin goch bydd yn yr ardd ar y tro.

Mae’r robin yn canu i gadw adar eraill draw.

Mae’n canu drwy’r flwyddyn, nid oes llawer o adar Cymru’n gwneud hynny.

Yn aml mae’r robin goch yn nythu mewn mannau rhyfedd: mewn hen esgid, mewn sied neu garej.

Hoff fwyd robin yw pryfed, lindys a chorynnod/ bryfed cop.

Pan ddaeth postmyn i Gymru yn gyntaf, roedden nhw’n gwisgo siacedi coch, felly cawson nhw’r enw “robin”.

Tasg 1 – Defnyddiwch ddogfen Word i greu ffeil o ffeithiau am y robin goch. Defnyddiwch y teitlau yma i’ch helpu:

Mae gan robin goch…

Mae robin goch yn bwyta…

Mae robin goch yn nythu…

Gwybodaeth ddiddorol…

Tasg 2 – Ewch allan i’r ardd, eisteddwch yn dawel am 15 munud.  Pa fath o adar sy’n dod mewn i’r ardd?  Ar ddarn o bapur, gwnewch siart rhicbren (cyfri) syml i gofnodi’ch gwybodaeth.

Tasg 3 – Ar ddarn o bapur, gwnewch fap syml o’ch gardd. Rhowch yr adar sydd ar eich siart rhicbren (cyfri) ar map. Tynnwch lun o’ch map ac e-bostiwch eich ffeil o ffeithiau a’ch map i’ch athro.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Her ychwanegol:1 Dewiswch aderyn arall sydd ar eich siart rhicbren (cyfri).  Ewch ati i ddarganfod gwybodaeth am yr aderyn yna.  Defnyddiwch lyfrau neu’r We.  Ychwanegwch y wybodaeth at eich ffeil o ffeithiau

2. Chwilair Adar yr Ardd

Chwilair-adar-1

 

https://amgueddfa.cymru/media/5096/bird+book+Welsh.pdf

https://amgueddfa.cymru/media/6865/Gweld-Bwytawyr-y-Goedwig_Woodland-Feeder-Spotter.pdf

https://www.rspb.org.uk/fun-and-learning/ 

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw