Y3 > Welsh > Humanities > Geography > Adnabod rhannau’r goedwig law

Gan Hannah Golding

Bwriadau Dysgu:

I adnabod rhannau’r goedwig law a beth sydd yn byw ac yn tyfu yno.

To identify the parts of the rainforest and what lives and grows there .

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y dasg hon fyddwch yn dysgu am y wahanol haenau sydd yn y goedwig law. Byddwch yn darganfod pa blanhigion sy’n tyfu yno a pha anifeiliaid sydd yn byw ymhob rhan. Fydd angen gwylio clip YouTube, neu gallwch wneud gwaith ymchwil eich hun. Gallwch gyflwyno’ch gwaith ar Hwb neu ei wneud ar bapur.

In this task you will learn about the different layers of the rainforest. You will find out which plants grow there and which animals live in each part. You will need to watch a YouTube clip, or you can do your own research. You can submit your work on Hwb or do it on paper.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

I ddechrau, gwyliwch y clip fideo yma ar YouTube sy’n esbonio’r gwahanol haenau sydd yn y goedwig law.

To get started, watch this video clip on YouTube that explains the different layers of the rainforest.

Faint ydych chi’n gwybod am y goedwig law? Gwnewch ychydig o waith ymchwil eich hun i ddarganfod pa blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw ymhob haen. Ar ôl gwneud eich gwaith ymchwil, bydd angen i chi gyflwyno beth rydych wedi dysgu. Gallwch wneud hyn drwy labeli’r llun ar y templed neu drwy dynnu llun eich hunan a’i labelu – rhaid cynnwys enw pob haen a manylion am unrhyw blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yno.

How much do you know about the rainforest? Do some research yourself to find out which plants and animals live in each layer. After doing your research, you will need to present what you have learned. You can do this by labelling the picture on the template or by drawing and labelling it yourself – include the name of each layer and details of any plants and animals that live there.

Defnyddiwch y daflen geirfa yma i’ch helpu.

Use this glossary to help you.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Gwyliwch y fideo YouTube ar y Goedwig Law (Gallwch wneud nodiadau ar hyn wrth wylio.)
  2. Ymchwiliwch ar y we neu mewn llyfrau i ddarganfod pa anifeiliaid a phlanhigion sy’n byw yn yr haenau gwahanol.
  3. Cyflwynwch y wybodaeth gan ddefnyddio’r templed ‘Haenau’r Goedwig Law’ neu tynnwch lun eich hunan. Rhaid i chi enwi pob haen ac yna ysgrifennu pa anifeiliaid a phlanhigion sydd yn byw ymhob haen. Cofiwch fod eich lluniau yn dangos hyn hefyd. Gallwch ddefnyddio’r daflen ‘Geirfa: Y Goedwig Law’ i’ch helpu gyda geirfa anodd ac anghyfarwydd.
  4. Os ydych wedi gwneud y dasg ar Hwb, rhowch eich gwaith mewn ffolder gan roi teitl iddo. Os ydych wedi ei wneud ar bapur, tynnwch lun ohono ac uwch lwythwch i Hwb.

 

  1. Watch the YouTube video on the Rainforest (You can make notes on this while watching.)
  2. Research on the web or in books to find out which animals and plants live in the different layers.
  3. Present the information using the ‘Rainforest Layers’ template or draw your own. You must name each layer and then write down which animals and plants live in each layer. Remember your photos show this too. You can use the leaflet ‘Glossary: The Rainforest’ to help you with difficult and unfamiliar vocabulary.
  4. If you have done the task on Hwb, put your work in a folder and give it a title. If you’ve done it on paper, take a picture and upload to Hwb.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Allwch chi greu model 3D o’r goedwig law? Uwch lwythwch lun o’ch gwaith.

Can you create a 3D model of the rainforest? Upload a photo of your work.

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw