Gan Catrin Phillips
Bwriadau dysgu:
- Ymchwilio i leoedd rhyfeddol yn Sir Benfro.
- I greu cyflwyniad amlgyfrwng.
- To research wondrous places in Pembrokeshire.
- To create a multimedia presentation.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Yn y gweithgaredd hwn, bydd plant yn ymchwilio i leoedd yn Sir Benfro cyn penderfynu ar 7 Rhyfeddod Sir Benfro. Eu tasg yw creu cyflwyniad amlgyfrwng am y 7 rhyfeddod y maen nhw wedi’u dewis.
In this activity, children will research places in Pembrokeshire before deciding on the 7 Wonders of Pembrokeshire. Their task is to create a multimedia presentation about the 7 wonders that they have chosen.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
A ydych erioed wedi clywed am ryfeddod o’r byd? Fe’u diffinnir fel lleoedd o harddwch rhyfeddol. Mae gwahanol fathau o ryfeddodau yn y byd gan gynnwys:
- Saith Rhyfeddod Hynafol y Byd;
- Saith Rhyfeddod Newydd y Byd;
- Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd.
Cymerwch gip ar yr enghreifftiau yn y fideo hwn:
Have you ever heard of a wonder of the world? They are defined as places of remarkable beauty. There are different kinds of wonders in the world including:
- The Seven Ancient Wonders of the World;
- The New Seven Wonders of the World;
- The Seven Natural Wonders of the World.
Take a look at the examples in this video:
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
Mae’r Ganolfan Gwybodaeth Twristiaeth yn Sir Benfro wedi gofyn wrthoch chi greu cyflwyniad amlgyfrwng am y 7 Rhyfeddod rydych chi’n dewis ar gyfer Sir Benfro.
You have been asked by Tourism Information Centre in Pembrokeshire, to create an informational multimedia presentation about your chosen 7 Wonders of Pembrokeshire. Use the following sites to help you decide:
PARC CENEDLAETHOL ARFORDIR PENFRO
Ar ôl i chi ddewis eich 7 rhyfeddod yn Sir Benfro, bydd angen i chi benderfynu sut rydych chi’n mynd i’w cyflwyno: a fydd ar Microsoft PowerPoint; fideo gwybodaeth gan ddefnyddio er enghraifft Adobe Spark, neu raglen amlgyfrwng wahanol, fel Sway?
Once you have chosen your 7 wonders of Pembrokeshire, you will need to decide how you are going to present them: will it be on Microsoft PowerPoint; an information video using for example Adobe Spark, or a different multimedia program, such as Sway?
Meddyliwch pa wybodaeth rydych chi’n mynd i gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r meini prawf llwyddiant isod fel canllaw:
- Ble mae e? Cynhwyswch fap i ddod o hyd i’r rhyfeddod.
- Pam ydych chi’n meddwl ei fod yn haeddu bod yn un o 7 rhyfeddod Sir Benfro.
Cofiwch ei fod yn gyflwyniad gwybodaeth, felly mae angen i chi gynnwys:
- Teitl;
- Cyflwyniad am y rhyfeddod;
- Amrywiaeth o ffeithiau diddorol.
Think about what information you are going to include. You can use the success criteria below as a guideline:
- Where is it? Include a map to locate the wonder.
- Why do you think it deserves to be one of the 7 wonders of Pembrokeshire.
Remember it is an information presentation, so you need to include:
- A title;
- An introduction about the wonder;
- A range of interesting facts.
Anfona dy waith at dy athro.
Send your work to your teacher.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Cam 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Gallaf ymchwilio i leoedd rhyfeddol yn Sir Benfro. / I can research wonderous places in Pembrokeshire.
Meini prawf llwyddiant #2: Gallaf greu cyflwyniad amlgyfrwng. / I can create a multimedia presentation.