Y4 > Welsh > Maths_Numeracy > Numbers and algebra > Y dihiryn: Hafaliadau syml er mwyn datrys côd

 

Bwriadau Dysgu:

Yn y weithgaredd hon fe fyddwch yn defnyddio symbolau yn hytrach na rhifau i ddatrys hafaliadau syml.

In this activity you will be using symbols rather than numbers to solve simple equations.

 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Mae’r weithgaredd yn cynnwys hafaliadau sydd yn defnyddio gwybodaeth syml o adio, tynnu, lluosi a rhannu syml. Mae’r dasg olynnol yn benagored ac yn dibynnu ar y disgybl i osod y lefel o her eu hunain. Mae yna bwerbwynt yn cyflwyno’r weithgaredd a thaflen i gofnodi. Nid oes angen unrhyw adnoddau ychwanegol.

The activity  includes equations which requires knowledge of simple adding, subtracting, multiplying and division. The task which follows is open ended and allows the pupil to set their own level of challenge. There is a PowerPoint which introduces the task and a sheet to record answers. No additional resources are required.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Mae Dafydd, Angharad a Tom wedi mynd i wersylla mewn coedwig dywyll. Ond mae yna ddirgelwch yn eu drysu a dihiryn i’w ddal. Er mwyn darganfod pwy yw’r dihiryn sydd yn achosi trybini iddynt rhaid i chithau hefyd ddatrys y côd mae nhw’n gosod i’r dihiryn. Gweithiwch trwy’r pwerbwynt ac yna defnyddiwch eich sgiliau mathemategol i ddarganfod yr ateb. Pob lwc!

Dafydd, Angharad and Tom have gone on a camping trip to a dark forest. But there is a mystery which has left them rather perplexed and with a villain to catch. In order to discover who the villain is, you must also solve the codes which they have set. Work through the PowerPoint and use your mathematical skills to discover the answer. Good Luck!

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Ewch ati i ddatrys y 6 côd sydd yn y pwerbwynt. Adiwch atebion y 6 côd er mwyn creu côd 3 digid. Cliciwch ar y linc. Rhowch y côd mewn. Os yw’r atebion yn gywir fydd y côd yn agor dogfen ac yn datgelu pwy yw’r dihiryn! / Solve the 6 codes in the PowerPoint. Add the answers of the 6 codes to create a 3 digit code. Click on the link and input the code. If the answers are correct it will open a document and reveal the villain!
  2. Gweithiwch 4 côd eich hunain gan ddefnyddio’r allwedd olaf yn y pwerbwynt. Defnyddiwch y daflen Cofnodi Côd. / Create 4 codes of your own using the final key in the Powerpoint. Use the ‘Cofnodi Côd’ sheet.
  3. Anfonwch at eich athro/athrawes. / Send the worksheet to your teacher.
  4. Ewch ati i greu allwedd a chôdiau tebyg i’r rhai yn y pwerbwynt yn yr awyr agored gan ddefnyddio adnoddau naturiol. / Create your own key and codes such as those in the Powerpoint outdoors by using natural resources such as stones and leaves.
  5. Gallwch gofnodi wrth dynnu ffotograffiau a’u hanfon at eich athro/athrawes. /  You can record by taking photos and sending them to your teacher.

GWIRIO’R ATEB

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Ceisiwch herio’ch hun trwy greu hafaliadau cynyddol anodd.Dysgu am BODMAS

Try and challenge yourself by creating increasingly difficult equations.

Learn about BODMAS

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw