Bwriadau dysgu:
Bwriad y dasg hon ydy cynllunio ras newydd ar gyfer y gemau Olympaidd. Fe fydd angen i chi anodi gwahanol adrannau gan ddisgrifio pa sgil sydd angen ar gyfer eu cwblhau.
The purpose of this task is to design a new race for the Olympic games. You will need to annotate the different sections of the race and describe what skill is required to complete it.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Fe fydd angen treulio tua 10 munud ar lein i wylio’r cyflwyniad ar ffurf animeiddiad a’r fideo ar gyfer syniadau. Mae yna hefyd ddogfen Word gyda’r wers hon ar gyfer creu’r cynllun.
You will need to spend up to 10 minutes online to watch the introduction animation and the video for ideas. There is also a Word document with this lesson to record your plan.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Blynyddoedd maith yn ôl yn y flwyddyn 67CC cynhaliwyd y gemau Olympaidd cyntaf yng Ngwlad Groeg. Roedd y cystadlaethau bryd hynny yn wahanol iawn I’r rhai sydd gennym ni heddiw. Mae’n bwysig bod y gemau olympaidd yn esblygu er mwyn parhau i ddenu cystadleuwyr yn y dyfodol. Yn sgîl hyn, mae pwyllgor y gemau yn awyddus i dderbyn syniadau ar gyfer ras newydd. Gwyliwch yr animeiddiad er mwyn dysgu rhagor am eich tasg.
Many years ago in the year 67BC the Olympic games were held for the first time in Greece. The competitions at that time varied considerably to those we have today. It is important that the games evolve with modern times in order to continue to attract future competitors. With this in mind, the Olympic Games Committee is eager to receive ideas for a new race. Watch the animation to learn more about your task.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnEich tasg gyntaf fydd i wylio’r ddau fideo yma a chasglu syniadau ar gyfer eich ras rwystrau Ninja. Nodwch y gwahanol fathau o sgiliau corfforol sydd angen i gwblhau’r adrannau.
Your first task will be to watch the videos and collect ideas for your Ninja obstacle course. Make a note of the different physical skills required to complete the different sections.
Cliciwch os yr ydych eisiau syniad arall/Click for another idea
Nawr eich bod wedi gweld nifer o syniadau, addaswch nhw er mwyn creu cynllun o ras rwystrau Ninja eich hun yn y ddogfen Word. Yn y wers nesaf fe fydd angen i chi greu’r ras felly cadwch hyn mewn côf wrth gynllunio. Gallwch gwblhau’r dasg drwy ddefnyddio’r offer arlunio ar y raglen (mewnosod siapiau) neu argraffu’r ddogfen a arlunio’ch cynllun arno. Mae yna ddwy ddogfen ar gael yn dibynnu ar y lefel o her yr ydych am ymgymryd. Mae’r cyntaf yn cynnwys blwch geirfa a fydd o gymorth ond nid yr ail.
Now that you have seen plenty of ideas, adapt them in order to create a plan of your own Ninja obstacle course in the Word document. In the next lesson you will be creating your race so keep this in mind as you design it. You can complete the task by using the drawing tools on the programme (insert shapes) or by printing the document and drawing directly on to it. There are two versions of the document depending on the level of challenge you require. The first includes a vocabulary box which could assist you whereas the second one doesn’t.
Wedi i chi gwblhau eich cynllun, nodwch mewn blychau y sgiliau fydd angen ar yr athletwr i’w gwblhau e.e Wal ddringo- nerth a dyfalbarhad.
After you have completed your design, make a note in a box next to each section what skills the athletes will need to complete it e.g. Climbing wall – Strength and stamina.
Wedi i chi orffen ystyriwch eich cynllun yn ofalus gan rhoi enw priodol iddo sydd yn seiliedig ar y gwahanol rwystrau. Anfonwch eich gwaith at eich athro neu athrawes.
After you have finished carefully consider your design and give it an appropriate name based on the different obstacles. Send your work to your teacher.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.
Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)
Edrychwch ar y clip fideo yma o raglen deledu boblogaidd. Medrwch chi enwi’r sgiliau corfforol sydd angen yn y rwystrau amrywiol?
Look at this video clip from a popular television programme. Can you name the physical skills required for each obstacle?
Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Gallaf ddefnyddio fy nychymyg. I can use my imagination.
Meini prawf llwyddiant #2: Gallaf anodi gwahanol adrannau. I can annotate different sections.
Meini prawf llwyddiant #3: Gallaf enwi sgiliau corfforol. I can name physical skills.
Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw