Bwriadau dysgu:
I greu set DJ gan ddefnyddio miwsig Cymraeg.
To create a DJ set using Welsh music.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Ydych chi’n ddigon dewr i gwblhau her DJ Daf? Dyma gyfle i chi fwynhau cerddoriaeth Gymraeg a dysgu mwy am yr artistiaid a’r traciau. Y dasg yw creu set DJ Cymraeg.
Are you brave enough to complete DJ Daf’s challenge? This is an opportunity for you to enjoy Welsh music and learn more about the artists and the tracks. The task is to create a Welsh DJ set.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Cliciwch ar y fideo i ddarganfod beth yw her DJ Daf.
Click on the video to find out about DJ Daf’s challenge.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
- Gwyliwch y fideo sy’n dangos DJ Daf yn cyflwyno eich her. / Watch the video showing DJ Daf presenting your challenge.
- Dewiswch eich hoff draciau. Gallwch ddefnyddio Spotify neu YouTube. Beth am ddechrau drwy wrando ar hoff ganeuon Seren a Sbarc? Cliciwch ar y linc yma / Choose your favourite tracks. You can use Spotify or YouTube. Why not start by listening to Seren a Sbarc’s favourite songs? Click on this link
- Ysgrifennwch neu gwnewch nodiadau ar gyfer cyflwyno bob un o’r traciau. Gall fod yn ffeithiau am artistiaid neu am y traciau. Defnyddiwch y we i ymchwilio. / Write or make notes to present each of the tracks. It can be facts about the artists or the tracks. Use the web to research.
- Pan rydych chi’n barod ac wedi ymarfer, gwnewch fideo o’ch set DJ. Cofiwch, does dim rhaid i chi chwarae pob cân yn eu cyfanrwydd. / When you’re ready and you’ve practised, make a video of your DJ set. Remember, you don’t have to play every song in their entirety.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Gallaf ddewis fy hoff draciau miwsig Cymraeg. / I can choose my favourite Welsh music tracks.
Meini prawf llwyddiant #2: Gallaf ymchwilio a chasglu ffeithiau am y cantorion a’r bandiau. / I can research and gather facts about the singers and bands.
Meini prawf llwyddiant #3: Gallaf greu set DJ gan gyflwyno’r traciau cerddoriaeth. / I can create a DJ set presenting the music tracks.
Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw