Y5 > Welsh > Science_Technology > Science > Adnabod gwahanol rhannau o flodyn

 Lesson by Mererid Francis

Bwriadau dysgu:

I adnabod gwahanol rhannau o flodyn.

To identify different parts of a flower.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Mae’r gweithgaredd yma yn dangos i’ch plentyn sut i fynd ati i ddyrannu blodyn er mwyn adnabod y gwahanol rannau. Mae yna bwerbwynt yn eu tywys drwy’r camau. Mae angen iddynt gynnal ymchwil pellach er mwyn darganfod beth yw pwrpas y darnau.

This activity will instruct your child how to dissect a flower in order to recognise the different parts. There is a powerpoint to guide them through the steps. They will need to conduct further research in order to discover the purpose of each part.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Ydych chi erioed wedi sylwi yn fanwl ar flodyn? Mae nhw’n bethau rhyfedd iawn pan yr ydych yn eu astudio yn ofalus. Mae ganddynt nifer o rannau hynod o bwysig sydd yn eu cynorthwyo i atgynhedlu. Gan ddefnyddio eich diagram o flodyn, edrychwch yn fanwl ar y fideo a cheisiwch adnabod y gwahanol rannau o’r gwahanol flodau.

Have you ever studied a flower carefully? They are quite strange when you study them carefully. They have many important parts which help them reproduce. By using the diagram of the flower, watch the video carefully and try to recognise the different parts of each flower.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnMae’n bosib i chi gwblhau’r dasg yma heb gymorth ond byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio’r siswrn. Fe fydd y pwerbwynt yn dangos y camau bydd angen i chi gymryd er mwyn llwyddo yn y dasg. Byddwch yn ofalus! 

It is possible for you to complete this task without support but be careful when using scissors. The Powerpoint will show you the steps which you will need to take in order to succeed. Be careful!

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pwerbwynt er mwyn dyrannu blodyn ac adnabod y gwahanol rannau. Cofiwch olchi eich dwylo ar ôl gorffen. 

Yna, ymchwiliwch ymhellach ynglyn â phwrpas y coesyn, petal, deilen a’r sepal. Medrwch ddefnyddio llyfrau a’r we er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am y darnau. 

Yn olaf, tynnwch ddiagram o’r darnau gan anodi pwrpas y coesyn, petal, deilen a’r sepal.  

Follow the instructions on the Powerpoint in order to dissect a flower and recognise the different parts. Remember to wash your hands afterwards.

Next, conduct research as to the purpose of the stem, petal, leaf and sepal.

Finally, draw a diagram of the flower’s parts and note the purpose of the stem, petal, leaf and sepal.

 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Os wnaethoch hoffi’r dasg yma beth am wneud yr un gweithgaredd eto gan ddyrannu gwahanol flodyn. Sylwch fod y rhannau yn medru edrych yn wahanol iawn o flodyn i flodyn.

If you enjoyed the task, how about doing the same activity again but, dissecting a different flower. Note that the parts can differ greatly from flower to flower.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddilyn cyfarwyddiadau Pwerbwynt er mwyn dyrannu blodyn ac adnabod y gwahanol rannau. / I can follow PowerPoint instructions to allocate a flower and identify the different parts.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ymchwilio i bwrpas y rhannau. / I can research the purpose of the parts.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf greu diagram o’r blodyn gan anodi pwrpas y rhannau. / I can create a diagram of the flower annotating the purpose of the parts.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

 J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw