Y5 > Welsh > Science_Technology > Science > Ymchwilio i greaduriaid er mwyn creu rhaglen ddogfen

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

I ymchwilio i greaduriaid er mwyn creu rhaglen ddogfen.

To research creatures to create a documentary.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwn yn ymchwilio i fywyd gwyllt yn yr ardd a chreu graff i ddangos ein canlyniadau. 

In this activity we will investigate wildlife in the garden and create a graph to show our results

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Mae’n bryd arsylwi a gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt yn eich gardd.

It’s time to observe and appreciate the wildlife in your garden.

Ewch ati i ymchwilio’r cynefin sydd yn eich milltir sgwâr chi, ewch am dro a thynnwch luniau o’r creaduriaid yr ydych yn dod ar draws. 

Go and explore the habitats within your area, go for a walk and take pictures of the creatures you see.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Ffurfiwch dabl o’r pryfed, chwilod ac adar sydd wedi ymweld â’ch gardd chi. Eisteddwch tu allan am gyfnod (30munud-awr) a chofnodwch, megis dull tali, pob tro mae’r creadur yn ymddangos. Dadansoddwch y tabl trwy greu graff/siart. Pictogram (Hawdd), Graff bar (Canolig), Siart cylch (Caled). 
Make a table to record the insects, bugs and birds that visit your garden. Sit outside for a set period of time (30min-1hour) and record, using a tally chart, every time the creatures appear. Interpret the table by creating a graph/chart. Pictogram (Easy), Bar graph (Middle), Pie chart (Difficult)

Gellir creu graff ar bapur, Microsoft Excel neu trwy J2Launch ar HWB. 
Dadansoddwch: 
* Pa greadur a ymwelodd mwyaf?
* Pa greadur a ymwelodd lleiaf?

You could create a graph on paper, Microsoft Excel or in HWB on J2Data.
Interpret:
* Which creature appeared the most?
* Which creature appeared the least?

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf greu tabl o greaduriaid yn yr ardd a chofnodi mewn dull rhicbren. / I can create a table of creatures in the garden and record using tally marks.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf greu graff o’r canlyniadau. / I can create a graph of the results.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf ddadansoddi’r canlyniadau. / I can analyse the results.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

 J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw