Y5 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Oracy > Creu a chyflwyno rhaglen ddogfen am greaduriaid yn yr ardd

By Sara Jones

Bwriadau dysgu:

I greu a chyflwyno rhaglen ddogfen am greaduriaid yn yr ardd.

To create and present a documentary about creatures in the garden.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwn yn gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt yn yr ardd trwy greu rhaglen ddogfen  

In this activity we will appreciate the wildlife in the garden by creating a documentary.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Rydw i wedi bod yn brysur yn arsylwi ac yn gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt yn fy ngardd. Gwyliwch fy nghlip fideo.

I’ve been busy observing and appreciating the wildlife in my garden. Watch my video clip.

Mae Iolo Williams yn sylwebydd natur a chyflwynydd teledu enwog o Gymru. Cymerwch gip ar ei arddull o gyflwyno am rai awgrymiadau fel y gallwch chi greu eich rhaglen ddogfen eich hunain.

Iolo Williams is a famous Welsh nature observer and TV presenter. Take a look at his style of presenting for some tips so that you can create your own documentary.

Watch a clip of Iolo William’s Programme on the Pembrokeshire Coast

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Eich tasg yw creu, perfformio a recordio rhaglen ddogfen natur o’ch gardd.

Your task is to create, perform and record a nature documentary from your garden.

1. Gwnewch restr o dri chreadur y byddwch chi’n siarad amdanynt ac yn ysgrifennu rhai ffeithiau amdanynt.

2. Ysgrifennwch sgript i chi’ch hun neu fap stori o’r hyn y byddwch chi’n siarad amdano.

3. Ymarferwch eich rhaglen ddogfen fel eich bod yn hyderus o flaen y camera.

4. Recordiwch fideo ohonoch chi’ch hun yn cyflwyno’ch rhaglen ddogfen o’ch gardd.

Meini prawf llwyddiant

Cynnwys gwybodaeth ddiddorol

•Sicrhewch drefn a dilyniant i’r wybodaeth

•Defnyddio terminoleg addas ac iaith ffurfiol

•Siaradwch yn glir

1.Make a list of three creatures that you will talk about and write some facts about them.

2.Write a script for yourself or a story map of what you will talk about.

3.Practise your documentary so that you are confident in front of the camera.

4.Record a video of yourself presenting your documentary from your garden.

Success Criteria

•Include interesting information

•Ensure order and progression of information

•Use suitable terminology and formal tone

•Speak clearly

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddewis gwybodaeth diddorol fel cynnwys a sicrhau trefn a dilyniant. / I can select interesting information such as content and ensure order and sequence.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddefnyddio terminoleg addas a iaith ffurfiol. / I can use appropriate terminology and formal language.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf gyflwyno’r rhaglen gyda mynegiant eglur. / I can present the program with clear expression.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw