Lesson by Sara Jones
Bwriadau dysgu:
I gynlllunio a chreu gem bwrdd rhifedd.
To plan and create a numeracy board game.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Eich her yn y gweithgaredd hwn yw dylunio a chreu gêm bwrdd sy’n galluogi chwaraewyr gêm i ymarfer eu sgiliau rhifedd.
Your challenge in this activity is to design and create a board game which enables game players to practise their numeracy skills.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Mae chwarae gemau yn ffordd dda o ymarfer sgiliau a chael hwyl ar yr un pryd. Er mwyn ymarfer eich sgiliau rhifedd, ydych chi’n gallu cynllunio a chreu gêm bwrdd i herio’ch teulu?Dyma gwestiynau i chi ystyried wrth gynllunio’ch gêm bwrdd
- Beth fydd eich thema? e.e. Ffermio, Garddio, Archarwyr, Lego, Môr-ladron, Llythrennedd.
- Pa ardal o fathemateg? Adio / tynnu / lluosi / rhannu / amser / arian / siâp / mesur.
- Pa offer bydd angen arnoch chi? Dis, cownteri (gallwch ddefnyddio darnau arian)
- Fyddwch chi’n cynnwys symbolau? e.e. marciau cwestiwn i ofyn problemau rhif neu ebychnod gyda hafaliaid.
- Fydd cosb neu wobr? e.e. os maent yn gywir, symudwch ymlaen tri cham neu yn anghywir, collwch dro.
Playing games is a good way to practice skills and have fun at the same time. To practice your numeracy skills, can you design and create a board game to challenge your family?
Here are some questions to consider when planning your board game
- What will be your theme? e.g. Farming, Gardening, Heroes, Lego, Pirates, Literacy.
- Which area of mathematics? Add / subtract / multiply / divide / time / money / shape / measure.
- What equipment will you need? Dice, counters (you can use coins)
- Will you include symbols? e.g. question marks to ask number or exclamation problems with equations.
- Will there be a penalty or reward? e.g. if they are right, move on three steps or wrong, miss a turn.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
- Defnyddiwch y cwestiynau i ystyried pa fath o gêm yr hoffech greu.
- Gwnewch restr o gwestiynau rhifedd bydd yn rhan o’r gêm
- Cynlluniwch eich gêm bwrdd ar ddarn o bapur.
- Ewch ati i greu eich gêm bwrdd.
- Ysgrifennwch set o reolau syml ar gyfer eich gêm.
- Ar ôl creu eich gêm, ceisiwch chwarae eich gêm gyda’ch teulu. Tynnwch luniau neu recordiwch eich teulu yn chwarae’r gêm ac uwch lwythwch nhw i’ch cyfrif HWB.
- Use the questions to think about what kind of game you would like to create.
- Make a list of numeracy questions that will be part of the game
- Plan your board game on a piece of paper.
- Create your board game.
- Write a simple set of rules for your game.
- After creating your game, try playing your game with your family. Take photos or record your family playing the game and upload them to your HWB account.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.
Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)
Her / ChallengeCreu hysbyseb i werthu’ch gêm.
Create an advert to sell your game.
Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Gallaf ystyried cwestiynau allweddol er mwyn creu gem bwrdd rhifedd mewn maes penodol. / I can consider key questions to create a numeracy board game in a particular area.
Meini prawf llwyddiant #2: Gallaf ysgrifennu rheolau syml am sut i chwarae’r gem. / I can write simple rules about how to play the game.
Meini prawf llwyddiant #3: Gallaf ddefnyddio deunyddiau pwrpasol yn effeithiol i greu’r gem. / I can use suitable materials effectively to create the game.
Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw