Y5 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Cynllunio rhaglen deledu am eich hoff rysait

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

I gynllunio rhaglen deledu am eich hoff rysait.

To design a TV programme for your favorite recipe.

 

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwn yn edrych ar sut i gyfathrebu cyfarwyddiadau yn effeithiol er mwyn dangos sut i gyflwyno rysáit ar raglen goginio.

In this activity we will look at how to communicate instructions effectively to demonstrate how to present a recipe on a cooking program.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Heddiw rydyn ni’n mynd i fwynhau yn y gegin. Beth am ddilyn eich hoff rysáit? Dyma fi’n cael hwyl yn y gegin. Sylwch ar yr iaith dw i’n defnyddio.

Today we are going to enjoy in the kitchen. Why not follow your favourite recipe? Here I am having fun in the kitchen. Note the language I’m using.

Rhaid i ni ddefnyddio gorchmynion i roi cyfarwyddiadau clir. Dydy pob gorchymyn ddim yn dilyn y patrwm arferol e.e.

We must use commands to give clear instructions. Not all commands follow the usual pattern e.g.

aros / arhoswch

cymryd / cymerwch

rhoi / rhowch

troi/ trowch

 

A allwch chi gwblhau’r brawddegau hyn trwy ddefnyddio’r gorchymyn cywir?

Can you complete theses sentences by using the correct command?

1.____________ ar yr athro. (gwrando)

 

2.____________ y drws. (cau)

 

3.____________ y gwaith. (gorffen)

 

4.____________ y dudalen. (troi)

 

5.____________ y gwaith. (mwynhau)

 

6.____________ eich tro, ferched. (aros)

 

7.____________ am bobl eraill, blant. (meddwl)

 

8.____________ eich bagiau wrth y drws. (rhoi)

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Mae’n amser i chi ddechrau cynllunio’ch sioe goginio. Ydych chi’n barod?

It’s time to start planning your cooking show. Are you ready?

  1. Dewiswch y rysáit yr hoffech ei gyflwyno yn eich sioe goginio. Gwnewch nodyn o’r cynhwysion y bydd eu hangen. / Choose the recipe that you’d like to introduce in your cooking show. Make a note of the ingredients that will be needed.
  2. Gwnewch nodiadau fel eich bod yn glir pa orchmynion y byddwch yn eu defnyddio e.e. / Make notes so that you’re clear on which commands that you will use e.g.

cymysgwch, arhoswch, pwyswch, rhowch, torrwch, mesurwch, ychwanegwch, mwynhewch

  1. Mae angen parhad er mwyn cyfathrebu cyfarwyddiadau yn effeithiol. Meddyliwch am y camau yn eich rysáit a dewiswch gysylltiadau amser priodol e.e. / Effective communication of instructions requires continuity. Think about the steps in your recipe and choose appropriate time connectives e.g.

Yn gyntaf, yn ail, wedyn, yna, ar ôl hynny, yn dilyn, wedi hynny, yn olaf

  1. Tynnwch lun neu gwnewch gopi o’ch nodiadau a’u uwch lwytho i’ch cyfrif HWB. / Take a photo or copy your notes and upload them to your HWB account.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

 

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Ysgrifennwch eich rysáit fel tudalen ar gyfer cylchgrawn neu lyfr. Defnyddiwch destun a lluniau gan sicrhau bod eich cyfarwyddiadau’n glir.

Write out your recipe as a page for a magazine or book. Include text and pictures ensuring that your instructions are clear.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf wylio fideo enghreifftiol. / I can watch a sample video.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddewis rysait a phenderfynu sut mae eu gyflwyno’n effeithiol. / I can choose a recipe and decide how to present it effectively.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf ddefnyddio berfau gorchmynnol a chysyllteiriau’n effeithiol. / I can use imperative verbs and conjunctions effectively.

 

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw