Y5 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Eferest a Chymru Rhan 2 (Disgrifio’r daith i’r copa)

Lesson by Catrin Phillips

 

Bwriadau dysgu:

  • I ganfod gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau am Tori James. To find information to answer questions about Tori James.
  • I ddisgrifio rhannau o’r daith i gopa Eferest. To describe parts of the journey to the summit of Everest.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn, bydd plant yn darllen testun gwybodaeth byr ac yn gwylio fideo 3 munud cyn cwblhau dwy dasg y gellir eu cwblhau ar-lein neu ar bapur.

In this activity, children will read a short information text and watch a 3 minute video before completing two tasks that can be completed online or on paper.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

  • Beth yw’r cysylltiad rhwng Eferest a Sir Benfro?
  • What’s the connection between Everest and Pembrokeshire?

Yr ateb yw Tori James. The answer is Tori James.

  • Fe frwydrodd Tori James, a gafodd ei magu ar fferm yn Sir Benfro, dymheredd o -40°c a salwch ofnadwy i ddod y fenyw gyntaf o Gymru i goncro copa talaf y byd – Eferest. Mae hi’n sicr yn haeddu cael ei nodi fel un o ferched medrus Cymru.  
  • Tori James who grew up on a farm in Pembrokeshire battled temperatures of -40°c and crippling illness to become the first Welsh woman to conquer the world’s tallest peak – Everest. She certainly deserves to be noted as one of Wales’ great women.

Darllena amdani yn y darn hwn o ‘Genod Gwych a Merched Medrus’ gan Medi Jones-Jackson.  Read about her in this excerpt from ‘Genod Gwych a Merched Medrus’ by Medi Jones-Jackson.

Gwylia’r clip isod i weld ychydig o’r heriau a wynebodd. Edrycha allan am ei thaith ar hyd yr ysgol! 

Watch the clip below to see a few of the challenges that she faced. Look out for her journey across the ladder!

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnWyt ti’n gallu ateb y cwestiynau yma gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y darn am Tori James? Cei di ateb ar bapur, ar Word neu ar lafar. 

Can you answer these questions using the information in the excerpt about Tori James? You can answer in writing, on Word or orally.

Rho dy hun yn esgidiau Tori. Pa fath o bethau roedd hi’n gallu gweld a’u teimlo? Wyt ti’n gallu ysgrifennu ymadroddion i ddisgrfio rhannau o’r daith i’r copa? Put yourself in Tori’s shoes. What kind of things was she able to see and feel? Can you write phrases to describe parts of the journey to the summit?

  • Anfona dy waith at dy athro.
  • Send your work to your teacher.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddarllen gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau am Tori James. / I can read information to answer questions about Tori James.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ysgrifennu ymadroddion sy’n cynnwys ansoddeiriau. / I can write phrases that contain adjectives.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw