Y5 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Trawsieithu i greu llinell amser y Rollercoaster

Lesson by Catrin Phillips

 

Bwriadau dysgu:

* I ddysgu am hanes roller-coasters.

* I ddefnyddio’r sgil o drawsieithu i grynhoi yn Gymraeg.

* I gynhyrchu graffig llinell amser atyniadol.

* To learn about the history of roller-coasters.

* To use the skill of translanguaging to summarise in Welsh.

* To produce an engaging timeline graphic.

 

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn, bydd plant yn gwylio fideo fer i ysbrydoli eu dysgu. Yna byddant yn darllen am hanes rollercoasters yn Saesneg cyn defnyddio eu sgiliau i greu llinell amser yn Gymraeg. Gellir gwneud y dasg ar-lein neu ar bapur.

In this activity, children will watch a short video to inspire their learning. They will then read about the history of roller-coasters in English before using their skills to create a timeline in Welsh. The task can be done online or on paper.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Mae gan Sir Benfro gymaint o atyniadau cyffrous, ond mae’n rhaid i chi gyfaddef, os ydych chi eisiau teimlo braw yn ein sir, y lle i ymweld ag ef yw Parc Thema Oakwood. Rhowch eich dwylo yn yr awyr a theimlo cyffro un o reidiau mwyaf poblogaidd Oakwood:

Pembrokeshire has so many exciting attractions, but you’ve got to admit that if you want some ‘fear factor’ in our county, the place to visit is Oakwood Theme Park. Put your hands in the air and feel the exhilaration of one of Oakwood’s most popular rides:

Faint ydych chi’n ei wybod am rollercoasters? Cymerwch gip ar y dudalen isod i ddysgu am sut mae Megafobia wedi dod yn un o’r reidiau gorau yn Sir Benfro.

How much do you know about roller-coasters? Take a look at the page below to learn about how Megafobia become one of the best rides in Pembrokeshire.

OAKWOOD – HANES Y ROLLERCOASTER

Ydych chi wedi clywed am y sgil o drawsieithu? Oherwydd eich bod chi’n gallu siarad dwy iaith neu fwy, rydych chi eisoes yn dda iawn am y sgil hon. Mae trawsieithu yn golygu darllen llawer iawn o wybodaeth mewn un iaith a chyfieithu a chrynhoi’r prif bwyntiau mewn iaith arall.

Rydych chi newydd ddarllen am hanes rollercoasters yn Saesneg. Heddiw, byddwch chi’n cwblhau’ch tasg yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n defnyddio’ch sgiliau trawsieithu.

Have you heard about the skill of translanguaging? Because you can speak two or more languages, you are are already very good at this skill. Translanguaging means reading a large amount of information in one languaging and the translating and summarising the main points in another language.

You’ve just read about the history of roller-coasters in English. Today, you’ll be completing your task in Welsh. This mean that you will use your translanguaging skills.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Darllenwch trwy’r cyflwyniad isod i ddeall sut i greu llinell amser. /Read through the presentation below to understand how to create a timeline.
  1. Ewch ati i greu llinell amser ynglŷn â sut mae rollercoasters wedi datblygu. Gallwch chi gwblhau hwn ar raglen o’ch dewis e.e. PowerPoint, neu gallwch chi gwblhau hwn ar bapur. / Create a timeline about how roller-coasters have developed. You can complete this on a programme of your choice e.g. PowerPoint, or you can complete this on paper.
  1. Anfona dy waith at dy athro. / Send your work to your teacher.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf siarad am hanes rollercoasters. / I can talk about the history of roller-coasters.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddefnyddio’r sgil o drawsieithu i grynhoi yn Gymraeg. / I can use the skill of translanguaging to summarise in Welsh.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf gynhyrchu graffig llinell amser atyniadol./ I can produce an engaging timeline graphic.

 

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw