Y5 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Ysgrifennu dadl cytbwys ar enwogion o Gymru

Lesson by Carys Davies

 

Bwriadau dysgu:

I ysgrifennu dadl cytbwys ar enwogion o Gymru.

To write a balanced debate on Welsh celebrities.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Dychmygwch fod balŵn aer poeth yn llawn o enwogion Cymru yn hedfan dros ein gwlad, ond un ar y tro, byddant yn cael eu taflu allan o’r balŵn! Eich cyfrifoldeb chi yw ysgrifennu dadl cytbwys er mwyn penderfynu pwy rydych chi’n meddwl sy’n haeddu aros yn y balŵn. Gallwch gyflwyno’r gwaith yn ysgrifenedig ar bapur, neu ar raglen ar y cyfrifiadur e.e. Word.

Imagine there is a hot air balloon full of famous Welsh people flying over our country, but one at a time, they will be thrown out of the balloon! Your responsibility is to write a balanced argument about all the famous people to decide who deserves to stay in the balloon. You can write the argument on paper or use a programme on a computer e.g. Word.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Cyn dechrau, faint o enwogion Cymraeg gallwch chi enwi? Gwyliwch y fideo i weld faint ohonyn nhw rydych chi’n adnabod.

Before starting, how many famous Welsh people can you name? Watch the video to see how many of them you recognise.

Ewch ati i ddarllen un infograffeg ar y tro, sy’n canolbwyntio ar enwogion gwahanol Cymraeg. Cymerwch nodiadau er mwyn gallu casglu’r prif bwyntiau, cyn penderfynu pa un o’r enwogion yw’r un ‘gorau’ – yr un sy’n haeddu aros yn y balŵn y mwyaf! Ai’r person sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau? Neu’r person sydd wedi codi’r mwyaf o arian? Neu berson arall yn gyfan gwbl? Trefnwch eich ffeithiau a barn mewn i ddadl cytbwys er mwyn cyfiawnhau eich rhesymau.

Read one infographic at a time, that focuses on different famous Welsh people. Take notes to collect the main points, before deciding which famous person is the ‘best’ – which one deserves to stay in the balloon the most! Is it the person that’s won the most awards? Or the person that’s raised the most money? Or another person altogether? Organise your facts and opinion into a balanced argument to justify your reasons.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  • Darllen yr infograffegau, un ar y tro
  • Cymryd nodiadau e.e. ar ffurf pwyntiau bwled o’r prif ffeithiau/pethau mwyaf diddorol
  • Edrych ar eich nodiadau a dewis pa berson sydd ‘gorau’ – efallai bod angen trafod gyda’ch teulu i weld eu barn nhw hefyd
  • Trefnu eich dadl cytbwys – un paragraff ar gyfer pob person enwog efallai?
  • Ysgrifennu/teipio eich dadl allan yn glir
  • Defnyddio geirfa addas e.e. o’r infograffeg, geirfa mynegi barn
  • Esbonio pa berson sy’n haeddu aros yn y balŵn ar ddiwedd y ddadl

 

  • Read the infographics, one at a time
  • Take notes e.g. using bullet points of the main facts/most interesting points
  • Look at your notes and choose the ‘best’ person – you might need to discuss with your family to see their opinion too
  • Organise your balanced argument – one paragraph for each famous person maybe?
  • Write/type your argument clearly
  • Use appropriate vocabulary e.e. from the infographic, express opinion
  • Explain which person deserves to stay in the balloon at the end of your argument

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Eisiau tasg ychwanegol? Beth am greu infograffeg eich hunain? Dewiswch un o’r enwogion eraill o’r fideo ar ddechrau’r wers. Ymchwiliwch i’w bywyd a’r pethau arwyddocaol maent wedi cyflawni, cyn crynhoi’r ffeithiau mewn i infograffeg. Gallwch ddefnyddio Canva (a dewis yr opsiwn infographic) neu raglen fel Powerpoint / Publisher.

How about creating your own infographic? Choose one of the other famous people from the video at the start of the lesson. Research into their life and the significant things they’ve achieved, before summarising the facts into an infographic. You can use Canva (and choosing the infographic option) or a programme like Powerpoint / Publisher.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddarllen gwybgraffegau a gwylio fideo am enwogion Cymru a gwneud nodiadau o’r prif ffeithiau. / I can read infographics and watch a video about Welsh celebrities and make notes of the main facts

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddewis person ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd ac ysgrifennu dadl cytbwys gan ddefnyddio geirfa mynegi barn. / I can select a person based on the evidence presented and write a balanced argument using expression of opinion vocabulary.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf esbonio rhesymau teilwng dros fy newisiadau. / I can explain worthy reasons for my choices.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw