Y5 > Welsh > Maths_Numeracy > Measures and geometry > Cyfrifo arwynebedd a pherimedr mewn gardd ddelfrydol

Lesson by Carys Phillips

Bwriadau dysgu:

I gyfrifo arwynebedd a pherimedr mewn gardd ddelfrydol.

To calculate area and perimeter of an ideal garden.

 

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch yn defnyddio’ch sgiliau mathemateg i weithio allan arwynebedd a pherimedr fy ngardd ddelfrydol i ac yna creu eich gardd ddelfrydol chi eich hun. 

In this activity you will use your maths skills to work out the area and perimeter of my ideal garden and then create your own ideal garden.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf, dewch i ni atgoffa ein hunain am arwynebedd a pherimedr. Cliciwch ar y linciau isod at wefan Bitesize y BBC a gwyliwch y fideos. 

First, let’s remind ourselves of area and perimeter. Click on the links below to the BBC Bitesize website and watch the videos.

Beth yw arwynebedd? / What is area?

 Gwyliwch y clip yma i’ch atgoffa beth yw arwynebedd a sut i weithio allan yr arwynebedd o sgwâr a phetryal.

Beth yw perimedr? / What is perimeter?

 Gwyliwch y clip yma i’ch atgoffa beth yw perimedr.

Dyma fy nghynllun o fy ngardd ddelfrydol i. / Here’s a plan of my ideal garden.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Edrychwch ar gynllun fy ngardd ddelfrydol i. Gan ddefnyddio’r allwedd 1 sgwâr = 1 metr, gweithiwch allan hyd bob rhan o’r ardd.
  1. Yna, gan ddefnyddio’ch gwybodaeth o arwynebedd a pherimedr, gweithiwch allan y ddau ar gyfer fy ngardd ddelfrydol. Cofiwch ddefnyddio’r allwedd i weld beth yw ystyr y lliwiau. Gallwch ysgrifennu’r arwynebedd a pherimedr ar gopi o fy nghynllun i neu wneud nodiadau ar bapur e.e.

Seddi

Arwynebedd:

Perimedr: 

 

  1. Crëwch eich gardd ddelfrydol chi, allwch wneud ar bapur neu ar j2e. Cofiwch gynnwys allwedd i ddangos beth sydd yn eich gardd a defnyddiwch eich sgiliau mathemateg i weithio allan yr arwynebedd a pherimedr.

 

  1. Look at the layout of my ideal garden. Using the 1 square = 1 metre key, work out the length of each part of the garden.
  2. Then, using your knowledge of area and perimeter, work out both for my ideal garden. Remember to use the key to find out what the colours mean. You can write the area and perimeter on a copy of my plan or make notes on paper e.g.

Seating

Area:

Perimeter:

  1. Create your own ideal garden, which you can make on paper or on j2e. Remember to include a key to show what’s in your garden and use your maths skills to work out the area and perimeter.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

 

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Beth am ymchwilio ar y we am yr adnoddau / eitemau fydd angen arnoch i greu eich gardd ddelfrydol. Crëwch daenlen i gynnwys y costau. Syniadau:

Tŷ gwydr

Dodrefn tu allan 

Pwll nofio

Lazy spa

Ymbarél

Gazebo

Sied

 

Why not search on the web for the resources / items you will need to create your ideal garden. Create a spreadsheet to include the costs.

Ideas:

Greenhouse

Outdoor furniture

Swimming pool

Lazy spa

Umbrella

Gazebo

Shed

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddysgu am berimedr ac arwynebedd drwy wylio fideo. / I can learn about perimeter and area by watching video.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddefnyddio’r wybodaeth i gyfrifo arwynebedd a pherimedr. / I can use the information to calculate area and perimeter.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf greu gardd ddelfrydol gan gyfrifo’r arwynebedd a’r perimedr. / I can create an ideal garden calculating the area and perimeter.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw