Y5 > Welsh > Maths_Numeracy > Measures and geometry > Darganfod a mesur onglau yn yr ardd

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

I ddarganfod a mesur onglau yn yr ardd.

To find and measure angles in the garden.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwn yn mesur onglau y gallwn eu gweld yn yr ardd. Byddwn yn gwylio fideo YouTube yn dangos sut i fesur onglau cyn chwilio am onglau y gallwn eu mesur yn yr ardd.

In this activity we will measure angles that we can see in the garden. We’ll watch a YouTube video showing how to measure angles before looking for angles that we can measure in the garden.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn y wers ddiwethaf, gwnaethon ni edrych ar onglau yn yr ardd – ongl lem, ongl aflem, ongl sgwâr ac ongl atgyrch. Heddiw, byddwn ni’n edrych ar sut i fesur onglau. Gwyliwch y fideo yma er mwyn dysgu sut i fesur ongl.

In the previous lesson, we looked at angles in the garden – acute angle, obtuse angle, right angle and reflex angle. Today, we’re going to look at how to measure angles. Watch this video to learn how to measure an angle.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Dyma luniau o fy ngardd i. Gallwch chi ddarganfod yr onglau? Copïwch a gludwch y lluniau yma i ddogfen e.e. ‘Microsoft Word,’ neu J2e yn HWB er mwyn labeli’r onglau. 

I have taken a few pictures in my garden, can you see the angles? Copy and paste the pictures to a document e.g. ‘Microsoft Word,’ or J2e on HWB. This will enable you to label them.

Mesurwch yr onglau i’r radd agosaf (Os nad oes onlgydd gyda chi, mae ambell raglen ag eicon onglydd e.e. J2e yn HWB neu lawrlwytho ap. 
Measure the angles to the nearest degree (If you don’t have a protractor, some online programs have a protractor icon to measure digitally or you can download an app).

Tynnwch luniau yn eich gardd chi, uwch lwythwch i raglen HWB o’ch dewis. 
Take pictures of your garden, upload them to a HWB program of your choice.

Labelwch a mesurwch yr onglau. 
Label and measure the angles.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf wylio fideo er mwyn dysgu sut i fesur onglau. / I can watch a video to learn how to measure angles.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddefnyddio onglydd i fesur i’r radd agosaf. / I can use a protractor to measure to the nearest degree.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw