Y5 > Welsh > Maths_Numeracy > Numbers and algebra > Amcangyfrif sawl glaswelltyn sydd mewn gardd

Lesson by Pippa Bevan

Bwriadau dysgu:

  1. Byddwch yn cyfrifo sawl glaswelltyn sydd yn 1cm² o’ch gardd ac yna lluosi i ddarganfod 1m².
  2. Byddwch yn mesur arwynebedd eich gardd.
  3. Byddwch yn amcangyfrif sawl glaswelltyn sydd yn eich gardd gyfan.
  1. You will count how many blades of grass are in 1cm² of your garden and multiply to find out how many are in 1m².
  2. You will measure the area of your garden.
  3. You will estimate how many blades of grass are in your whole garden.

 

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Gweithgaredd ymarferol yw hwn a fydd yn cael ei wneud yn yr awyr agored. Gallwch dynnu lluniau o’ch hun yn cwblhau’r dasg a’i ddanfon i’ch athro/athrawes, gallwch gofnodi ar bapur neu deipio’ch canfyddiadau ar liniadur/gyfrifiadur.

This is a practical activity that will be completed outdoors. You can take pictures of yourself completing the task and send them to your teacher. You can record your findings on paper or type them using a laptop/computer.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Cliciwch ar y linc i atgoffa’ch hun sut i weithio allan arwynebedd.
Click on the link to remind yourself how to work out area.

BBC Bitesize

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf, marciwch sgwâr bach o laswellt yn eich gardd (1cmx1cm = 1cm²).
  2. Nesaf, cyfrifwch sawl glaswelltyn sydd yn y sgwâr yna.
  3. Lluoswch gyda 100 i gyfrifo sawl glaswelltyn sydd mewn 1m².
  4. Nesaf, mesurwch hyd a lled eich gardd mewn metrau a lluoswch gyda’i gilydd i weithio allan arwynebedd yr ardd.
  5. Yn olaf, bydd angen lluosi’r nifer o ddarnau o laswellt sydd mewn 1m² gyda’r nifer o fetrau sgwâr sydd yn eich gardd, bydd hyn yn rhoi amcangyfrif i chi sawl glaswelltyn sydd yn eich gardd gyfan.
  1. Firstly, mark out a small square of ​​grass in your garden (1cm x 1cm = 1cm²).
  2. Next, count how many blades of grass are in that square.
  3. Multiply by 100 to calculate how many blades of grass are in 1m².
  4. Next, measure the length and width of your garden in meters and multiply them together to work out the area of ​​the garden.
  5. Finally, multiply the number of square meters in your garden by the number of blades of grass in 1m², this will give you an estimate of how many blades of grass are in your whole garden.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham6.

 

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Tasg opsiynol – Wedi’r dasg yma gallwch ddarganfod deunyddiau naturiol yn eich gardd a gweithio allan eu harwynebedd.

Optional task – Following this task you could find some natural materials in your garden and measure their area.

 

Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf gyfrifo sawl glaswelltyn sydd yn 1cm² ac yna lluosi i ddarganfod 1m².  I can count how many blades of grass are in 1cm² and multiply to find out how many are in 1m².

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf mesur arwynebedd fy ngardd. I can measure the area of my garden.

Meini prawf llwyddiant #3: Gallaf amcangyfrif sawl glaswelltyn sydd yn fy ngardd cyfan. I can estimate how many blades of grass are in my whole garden.

Cam6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol i sod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e   Google Drive OneDrive   Seesaw