Y5 > Welsh > Humanities > Geography > Tymheredd y Byd – Rhan 3 (Rhagolwg tywydd)

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

  • I gymharu tymheredd dwy wlad.
  • To compare the temperatures of two countries.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Ar ôl gwylio fideo enghreifftiol o funud a hanner o hyd byddwch yn mynd ati i wneud gwaith ymchwil er mwyn creu rhagolwg tywydd eich hunan gan gymharu’r tywydd mewn dwy wlad.

After watching an example video of a minute and a half you will do some research to create your own weather forecast comparing the weather in two countries.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Dyma esiampl o ragolwg tywydd Cymru.

Here is an example of a Welsh weather forecast.

 

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Ewch ati i greu cyflwyniad tywydd sy’n cymharu tywydd Cymru â gwlad arall. Bydd angen i chi wneud gwaith ymchwil ar y tymheredd a chasglu lluniau o fapiau ac enghreifftiau o’r tywydd. Gallwch wneud cyflwyniad ar lafar, Pwerbwynt neu fodel â symbolau.
    Create a weather presentation that compares Welsh weather with another country. You will need to carry out research on the temperature and collect pictures of maps and weather examples. You can make an oral presentation, a Power Point or a model with symbols.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf leoli gwledydd ar fap. / I can locate countries on a map.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ymchwilio i dymheredd cyfartalog gwledydd penodol. / I can investigate the average temperature of certain countries.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf gymharu tywydd dwy wlad. / I can compare the weather of two countries.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw