Y6 > Welsh > Science_Technology > ICT > Ymchwilio a chyflwyno rhyfeddodau Sir Benfro

Gan Catrin Phillips

Bwriadau dysgu:

  • Ymchwilio i leoedd rhyfeddol yn Sir Benfro.
  • I greu cyflwyniad amlgyfrwng.
  • To research wondrous places in Pembrokeshire.
  •  To create a multimedia presentation.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn, bydd plant yn ymchwilio i leoedd yn Sir Benfro cyn penderfynu ar 7 Rhyfeddod Sir Benfro. Eu tasg yw creu cyflwyniad amlgyfrwng am y 7 rhyfeddod y maen nhw wedi’u dewis.

In this activity, children will research places in Pembrokeshire before deciding on the 7 Wonders of Pembrokeshire. Their task is to create a multimedia presentation about the 7 wonders that they have chosen.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

A ydych erioed wedi clywed am ryfeddod o’r byd? Fe’u diffinnir fel lleoedd o harddwch rhyfeddol. Mae gwahanol fathau o ryfeddodau yn y byd gan gynnwys:

  • Saith Rhyfeddod Hynafol y Byd;
  • Saith Rhyfeddod Newydd y Byd;
  • Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd.

Cymerwch gip ar yr enghreifftiau yn y fideo hwn:

Have you ever heard of a wonder of the world? They are defined as places of remarkable beauty. There are different kinds of wonders in the world including:

  • The Seven Ancient Wonders of the World;
  • The New Seven Wonders of the World;
  • The Seven Natural Wonders of the World.

Take a look at the examples in this video:

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Mae’r Ganolfan Gwybodaeth Twristiaeth yn Sir Benfro wedi gofyn wrthoch chi greu cyflwyniad amlgyfrwng am y 7 Rhyfeddod rydych chi’n dewis ar gyfer Sir Benfro.

You have been asked by Tourism Information Centre in Pembrokeshire, to create an informational multimedia presentation about your chosen 7 Wonders of Pembrokeshire. Use the following sites to help you decide:

PARC CENEDLAETHOL ARFORDIR PENFRO

DARGANFOD SIR BENFRO

Ar ôl i chi ddewis eich 7 rhyfeddod yn Sir Benfro, bydd angen i chi benderfynu sut rydych chi’n mynd i’w cyflwyno: a fydd ar Microsoft PowerPoint; fideo gwybodaeth gan ddefnyddio er enghraifft Adobe Spark, neu raglen amlgyfrwng wahanol, fel Sway?

Once you have chosen your 7 wonders of Pembrokeshire, you will need to decide how you are going to present them: will it be  on Microsoft PowerPoint; an information video using for example Adobe Spark, or a different multimedia program, such as Sway?

 

Meddyliwch pa wybodaeth rydych chi’n mynd i gynnwys. Gallwch ddefnyddio’r meini prawf llwyddiant isod fel canllaw:

  • Ble mae e? Cynhwyswch fap i ddod o hyd i’r rhyfeddod.
  • Pam ydych chi’n meddwl ei fod yn haeddu bod yn un o 7 rhyfeddod Sir Benfro.

Cofiwch ei fod yn gyflwyniad gwybodaeth, felly mae angen i chi gynnwys:

  • Teitl;
  • Cyflwyniad am y rhyfeddod;
  • Amrywiaeth o ffeithiau diddorol.

Think about what information you are going to include.  You can use the success criteria below as a guideline:

  • Where is it? Include a map to locate the wonder.
  • Why do you think it deserves to be one of the 7 wonders of Pembrokeshire.

Remember it is an information presentation, so you need to include:

  • A title;
  • An introduction about the wonder;
  • A range of interesting facts.

 

Anfona dy waith at dy athro.

Send your work to your teacher.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ymchwilio i leoedd rhyfeddol yn Sir Benfro. / I can research wonderous places in Pembrokeshire.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf greu cyflwyniad amlgyfrwng. / I can create a multimedia presentation.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw