Y6 > Welsh > Science_Technology > Science > Data Creaduriaid Rhan 2 (Deall a chreu Diagram Venn)

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

  • I ddeall a chreu diagram Venn.
  • To understand and create a Venn diagram

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Byddwch yn dechrau drwy ddysgu sut mae defnyddio diagram Venn drwy wylio clip fideo byr ar BBC Bitesize. Yn y brif dasg byddwch yn dosbarthu creaduriaid yn y diagram Venn ar ddogfen Word.

You’ll start by learning how to use a Venn diagram by watching a short video clip on BBC Bitesize. In the main task you will classify creatures in the Venn diagram on a Word document.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Heddiw byddwn ni’n edrych ar sut i ddefnyddio Diagram Venn. Ar adegau, mae cyflwyno a dadansoddi data yn achosi pen tost. Mae’n bwysig bod y data yn glir. Offeryn gweledol yw diagram Venn sy’n helpu ni i gymharu a chyferbynnu dau neu fwy o bethau. Cliciwch ar y linc isod a gwyliwch y fideo sy’n esbonio diagramau Venn.

Today we’re going to look at how to use a Venn Diagram. At times, the presentation and analysis of data causes headaches. It is important that the data is clear. A Venn diagram is a visual tool that helps us compare and contrast two or more things. Click on the link below and watch the video that explains Venn diagrams.

BBC Bitesize – Diagram Venn

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Edrychwch yn ofalus ar y diagram Venn ar anifeiliaid Prydeinig sydd yn y ddogfen Word isod. Trefnwch yr anifeiliaid i’r rhanbarthau cywir. Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen er mwyn llusgo’r lluniau i’r lle cywir. Look carefully at the Venn diagram on British animals in the Word document below. Sort the animals into the correct regions. You can download a copy of the document to drag the photos to the right place.
  1. Arbedwch eich gwaith a’i lwytho i HWB er mwyn dangos i’ch athro / athrawes. Save your work and upload it to HWB to show to your teacher.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Ydych chi’n gallu cwblhau’r her ‘Chwilio Chwilod’?

Can you complete the ‘Chwilio Chwilod’ challenge?

 

Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf drefnu data. / I can sort data.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf sgimio a sganio gwaith ffeithiol. / I can skim and scan non-fiction work.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf ehangu fy nealltwriaeth o greaduriaid Prydeinig. / I can broaden my understanding of British creatures.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw