Y6 > Welsh > Science_Technology > Science > Ysgrifennu araith am arbed egni

Lesson by Mererid Francis

 

Bwriadau dysgu:I ysgrifennu araith am arbed egni.

To write a speech about saving energy.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn mae cyfle i ddysgu am sut y gallwn arbed ynni yn ein cartrefi trwy chwarae gêm ryngweithiol. Mae hefyd yn eich dysgu sut i ysgrifennu araith gan ddefnyddio’r wybodaeth hon. Mae cyflwyniad Sway yn eich arwain trwy’r camau a’r technegau y gallech eu defnyddio. Mae yna hefyd daflen i’ch dysgu chi am dechnegau perswadiol.

In this activity there is an opportunity to learn about how we can save energy in our homes by playing an interactive game. It also teaches you how to write a speech using this information. The Sway presentation leads you through the steps and techniques you could use. There is also a leaflet to teach you about persuasive techniques.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Mae Ina o’r flwyddyn 3000 wedi cysylltu â chi eto. Tro hon mae ganddi syniad newydd am sut gallwn fynd ati i achub y blaned ar gyfer y dyfodol. Gwyliwch y fideo o Greta Thunberg yn rhoi ei haraith enwog ac yna chwaraewch y gêm ryngweithiol er mwyn gweld sut allwch chi wneud gwahaniaeth i’r byd drwy arbed egni. Defnyddiwch y wybodaeth yma i greu araith i berswadio eraill i wneud yr un peth.

In a from the year 3000 has contacted you again. This time she has a new idea on how we can save the planet for future generations. Watch the video of Greta Thunberg’s speech then play the interactive game in order to learn how you can save the world by saving energy. Use this information to persuade others to do the same.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Gwyliwch y fideo o Greta Thunberg yn gwneud ei haraith enwog am newid hinsawdd.
  2. Chwarewch y gêm rhyngweithiol ‘Ty Hapus’ er mwyn dysgu sut gallwn arbed egni.
  3. Dysgwch am dechnegau medrwch ddefnyddio mewn araith i berswadio pobl i arbed egni.
  4. Cwblhewch y daflen waith er mwyn adnabod technegau perswadio.
  5. Ysgrifennwch araith i berswadio eraill i arbed egni yn eu cartrefi.

Technegau-Perswadio-Taflen-Dechrau-Gyda-Ni

  1. Watch the video of Greta Thunberg giving her speech on climate change.
  2. Play the interactive game ‘Ty Hapus’ in order to learn how we can save energy.
  3. Learn about techniques you can use in a speech to persuade people to save energy.
  4. Complete the worksheet in order to recognise persuasive techniques.
  5. Write a speech that persuades others to save energy in their homes.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

 

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

*Darganfyddwch beth yw dosbarth egni teclynnau trydanol yn eich cartref. 

*Find out the energy rating for electric devices in your home.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn: 

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf chwarae gem rhyngweithiol i ddysgu sut mae arbed egni. / I can play an interactive game to learn how to save energy.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf adnabod technegau perswadio. / I can identify persuasion techniques.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf ysgrifennu araith am arbed egni. / I can write a speech about saving energy.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw