Y6 > Welsh > Health_Wellbeing > PSE > Adidas v Puma-Defnyddio iaith i adeiladu perthynas ac ysgifennu deialog

By Author Di Enw

 

Bwriadau dysgu:

Bwriad y wers yma ydy dysgu am sut mae iaith negyddol yn medru effeithio ar berthynas. Mae’n amlygu pa mor bwysig yw hi i ddewis ein geiriau yn ofalus er mwyn lles pawb.

The aim of the lesson is to learn how negative language can affect a relationship. It emphasises how important it is to choose words carefully for the sake of everybody’s wellbeing.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Dyma Gam 1.Mae’r wers yn cychwyn drwy olrhain hanes y ddau frawd Adi a Rudi Dassler. Mae’r wers yn defnyddio cyflwyniad Sway i gyflwyno’r hanes a’r gweithgareddau. Mae yna weithgaredd creu collage ymarferol a dwy daflen waith y gellir eu cwblhau ar Word neu eu cyflwyno mewn llyfr gwaith wrth ddilyn y Sway. Fe fydd angen bod ar-lein am tua 15 munud er mwyn cwblhau’r wers.

The lesson begins by looking at the lives of the two brothers Adi and Rudi Dassler. The lesson uses a Sway presentation to introduce their history and the activities. There is a practical activity to create a collage and two worksheets to complete in Word or they can be completed in your workbook by following the Sway. They will need about 15 minutes on-line in order to complete the lesson.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Dyma Gam 2.Wedi’r rhyfel byd cyntaf, fe ddaeth dau frawd yn enwog iawn am gynllunio a chreu yr esgidiau ymarfer cyntaf erioed. Eu henwau oedd Adi a Rudi Dassler. Yn y cyfnod yna fe ddaeth yr enw Dassler yn enwog iawn. Efallai nad yw’r enwau yna yn gyfarwydd i chi heddiw ond beth am Adidas a Puma?

Wrth i chi ddysgu rhagor am y ddau frawd fe ddysgwch hefyd nad oedd popeth yn fêl i gyd ac fe wnaeth eu llwyddiant suro eu perthynas.

Gweithiwch eich ffordd drwy’r cyflwyniad  Sway Adidas V Puma er mwyn dysgu rhagor amdanynt a dysgu sut i ddefnyddio iaith addas i adeiladu perthynas dda gydag eraill.

After the first world war, two brothers became very famous for designing and creating the first trainer. Their names were Adi and Rudi Dassler. During this period they were very famous. Perhaps they are not familiar names to you today but what about Adidas and Puma?

As you learn more about the two brothers you will also learn that their lives weren’t always a bed of roses and their success soured their relationship.

Work your way through the Sway Adidas V Puma in order to learn more about them and also learn how to use the right language to help build positive relationships with others.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Dyma Gam 3.

Mae’r gweithgareddau wedi eu cynnwys yn y Sway a gallwch eu cwblhau yn ymarferol mewn llyfr neu medrwch eu cwblhau mewn dogfennau Word drwy ddilyn y linc isod.

  1. Chwiliwch mewn hen bapurau newyddion am luniau o bobl yn cyfathrebu mewn sefyllfaoedd cyfeillgar ac anghyfeillgar. Torrwch nhw allan gan weithio collage. Neu, torrwch a gludwch luniau o’r we i greu casgliad mewn dogfen.
  2. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y Sway neu defnyddiwch y ddogfen ‘Cyfeillgar ac Anghyfeillgar’ er mwyn adnabod a didoli brawddegau sy’n gyfeillgar ac anghyfeillgar.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y Sway neu defnyddiwch y ddogfen ‘Deialog Adi a Rudi’ i greu deialog fer, cyfeillgar rhwng y ddau frawd a fyddai wedi gallu newid hanes eu bywydau hwy a’u cymdeithas.

The activities are included in the Sway and you are able to complete them in your book or you can complete them using the Word documents by following the links below.

  1. Look in old newspapers for pictures of people communicating in friendly and unfriendly situations. Cut them out and create a collage. Alternatively, cut and paste pictures from the internet to create a collection in a document.
  2. Follow the instructions in the Sway or use the document ‘Cyfeillgar ac Anghyfeillgar’ in order to recognise and sort sentences which are friendly and unfriendly.
  3. Follow the instructions in the Sway or use the document ‘Deialog Adi a Rudi’ to create a short, friendly dialogue between the two brothers that could have change the history of their lives and their community.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

Dyma Gam 4. Gwnewch ymdrech i ddefnyddio brawddegau cyfeillgar mewn sgwrs gydag eraill.

Make an effort to conduct conversations using friendly sentences.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf adnabod sefyllfaoedd cyfeillgar ac anghyfeillgar / I can recognise a friendly and unfriendly situation.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddewis brawddegau priodol i gyd-fynd â sefyllfa cyfeillgar ac anghyfeillgar / I can choose the appropriate sentence which corresponds to a friendly and  unfriendly situation.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf adnabod sut y gall yr iaith yr ydym yn defnyddio mewn sgwrs  effeithio ar ddyfodol  y berthynas / I can recognise how the language we use in a conversation can affect the future of a relationship.

 

Cam 6: Llwytho eich gwaith i fyny

Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw