Bwriadau dysgu:
- I ddadansoddi a chreu gwybgraffeg.
- To analyse and create an infographic.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Bydd y gweithgaredd yn dechrau drwy edrych ar gwybgraffeg ac ateb set o gwestiynau. Yn y brif dasg, bydd y plant yn darllen gwybodaeth er mwyn creu gwybgraffeg eu hun. Gall y dasg yma gael ei chwblhau ar bapur neu drwy ddefnyddio’r rhaglen ‘Powerpoint’.
The activity will begin by looking at an infographic and answering a set of questions. In the main task, the children read information to create their own infographic. This task can be completed on paper or using PowerPoint. The information in English can be found on Opal’s website, link below.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Ar adegau, mae cyflwyno a dadansoddi data yn achosi pen tost. Mae’n bwysig bod y data yn glir. Gallwch drin data mewn gwahanol ffyrdd. Yn y gweithgaredd yma, byddwn yn edrych ar gwybgraffeg. Mae gwybgraffeg yn caniatáu i chi gyflwyno’ch gwybodaeth mewn ffordd effeithiol a chryno.Darllenwch y wybodaeth yn y gwybgraffeg isod.
At times, the presentation and analysis of data causes headaches. It is important that the data is clear. You can handle data in different ways. In this activity, we will look at infographics. They allow you to present your information in an effective and concise way.
Read the information in the infographic below.
Gallwch chi ateb y cwestiynau isod yn seiliedig ar y wybodaeth o’r gwybgraffeg?
- Ydy’r data yn dangos bod anifeiliaid Prydeinig yn ffynnu?
- Disgrifiwch sefyllfa draenogod gan ddefnyddio ffracsiwn yn eich esboniad.
- Os oes 100 o dai ar hyd y stryd, sawl corryn ydych chi’n credu sydd yn y stryd yma?
- Sawl centimetr i ffwrdd wrthoch chi mae llygoden fawr?
- Os oes 90 gwenynen ar eich hol chi ac mae un trydydd yn wryw, beth yw’r gymhareb cewch chi bigo?
Can you answer the questions below based on the information from the infographic?
- Does the data show that British animals are thriving?
- Describe the position of hedgehogs using a fraction in your explanation.
- If there are 100 houses along the street, how many spiders do you think are in this street?
- How many centimetres away from you is a rat?
- If you have 90 bees and one third are male, what is the ratio you can pick?
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
Eich tasg chi heddiw yw defnyddio gwybodaeth er mwyn creu gwybgraffeg eich hun.
- Darllenwch y wybodaeth sydd gan Opal ynglŷn ag anifeiliaid/creaduriaid sydd ym Mhrydain. Dewiswch ffeithiau a gwnewch nodiadau er mwyn creu eich gwybgraffeg.
Your task today is to use information to create your own infographic.
- Read Opal’s information about animals / creatures in Britain. Choose facts and make notes to create your infographic.
Gallwch greu eich gwybgraffeg ar bapur neu drwy ddefnyddio’r rhaglen ‘Powerpoint’.
- Cam 1: Creu sleid portread.
- Cam 2: Fformatio’r cefndir ar gyfer eich gwybgraffeg.
- Cam 3: Golygu eich teitl a’ch is-bennawd.
- Cam 4: Ychwanegu elfennau gan ddefnyddio ‘SmartArt’.
- Cam 5: Creu elfennau unigryw gan ddefnyddio siapiau a blychau testun.
- Cam 6: Ychwanegu lluniau lle bod angen.
You can create your infographic on paper or by using the ‘Powerpoint’ program.
- Step 1: Create a portrait slide.
- Step 2: Format the background for your infographic.
- Step 3: Edit your title and subheading.
- Step 4: Add elements using ‘SmartArt’.
- Step 5: Create unique elements using shapes and text boxes.
- Step 6: Add photos where needed.
- Arbedwch eich gwybgraffeg a’i anfon at eich athro neu athrawes.
Save your infographic and send it to your teacher.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.
Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)
Ysgrifennwch gwestiynau i gyd-fynd â’ch gwybgraffeg.
Write questions to accompany your infographic.
Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Gallaf ddadansoddi data./ I can analyse data.
Meini prawf llwyddiant #2: Gallaf gasglu gwybodaeth ddiddorol. / I can gather interesting information.
Meini prawf llwyddiant #3: Gallaf gyflwyno data. / I can submit data.
Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw