Y6 > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Ymgeisio am swydd fel pensaer Minecraft

Lesson by Catrin Phillips

Bwriadau dysgu:

I ymgeisio am swydd fel pensaer Minecraft.

To apply for a job as Minecraft architect.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y dasg hon, byddwch yn dysgu ansoddeiriau y gallwch eu defnyddio i ddisgrifio’ch hun a hefyd ansoddeiriau y gallwch eu defnyddio i ddisgrifio lle. Byddwch yn defnyddio’r rhain i ysgrifennu ffurflen gais.

In this task, you will learn adjectives that you can use to describe yourself and also adjectives that you can use to describe a place. You will use these to write an application form.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Rydych eisoes wedi bod yn mirenio eich sgiliau pensaerniaeth. Cofiwch, rhaid i ni chwilio am gysgod tanddaearol. Mae wyneb y ddaear wedi ei losgi gan bwêr yr haul ac mae’r twll yn yr osôn wedi gwaethygu. Rhaid i ni feddwl yn chwim a gweithio’n gyflym. Mae angen pensaer arbennig arnon ni i gynllunio ein ffeuau tanddaearol. Bydd angen ffeuau ar gyfer y gweithwyr a ffeuau moethus i’r bobl enwog. Mae cwmni ‘Tanddaearol 3000’ yn edrych am bensaer. Ai chi yw’r person at y swydd?

You have already been refining your architecture skills. Remember, we have to look for underground shelter. The surface of the earth has been burned by the sun and the hole in the ozone has got worse. We must think quickly and work quickly. We need a special architect to design our underground dens. Workers’ dens and luxury dens will be needed for the celebrities. The ‘Tanddaearol 3000’ company is looking for an architect. Are you the person for the job?

 

Mae angen i chi werthu eich hun yn dda yn eich ffurflen gais am swydd. Rhaid i chi ddisgrifio’ch hun fel y person sydd orau ar gyfer y swydd. Bydd angen i chi hefyd ddisgrifio’r lleoedd rydych chi wedi’u hadeiladu fel lleoedd yr hoffent eu hadeiladu yn ‘Tanddaearol 3000’. Bydd angen i chi ddefnyddio llawer o ansoddeiriau i ddisgrifio’ch hun ac i ddisgrifio’r lleoedd rydych chi wedi’u hadeiladu. Cofiwch, ansoddair ydy gair sy’n disgrifio.  

You need to sell yourself well in your job application form. You must describe yourself as the person that is the best for the job. You will also need to describe the places that you have built as places that they would like built at ‘Tanddaearol 3000’. You will need to use many adjectives to describe yourself and to describe the places that you’ve built. Remember, an adjective is a word that describes.

Edrychwch ar yr ansoddeiriau anhygoel yma. 

Check out these amazing adjectives here.

Faint ohonyn nhw ydych chi’n cofio? Ydych chi’n gallu cyfateb yr ansoddeiriau yma sy’n disgrifio person? 

How many of them do you remember? Can you match these adjectives that describe a person?

Gallwch ddefnyddio rhain i ddisgrfio eich hunan e.e.

You can use these to describe yourself e.g.

Dw i’n berson creadigol. Dw i’n gallu defnyddio fy nychymyg i greu ffeuau sy’n wahanol ac yn anghyffredin.

Dewch i ni weld faint o’r ansoddeiriau sy’n disgrifio lle rydych chi’n gallu cofio.
Let’s see how many of the adjectives describe where you can remember.

Gallwch ddefnyddio rhain i ddisgrfio’r ffeuau rydych chi wedi eu dylunio e.e.

You can use these to describe the dens that you have designed e.g.

Yn ddiweddar, rydw i wedi dylunio nifer o ffeuau sylweddol gydag ystafelloedd aruthrol.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  • Er mwyn i chi ennill swydd fel pensaer i gwmni ‘Tanddaear 3000’ mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais.
  • Atebwch y cwestiynau mor fanwl ag y gallwch.
  • Cofiwch ddefnyddio amrywiaeth o ansoddeiriau i werthu eich hunan a’ch gwaith.
  • Agorwch y ddogfen ‘Swydd’ a’u harbed yn eich cyfrif HWB.

 

  • In order to become an architect for an Underground 3000 company you must complete the application form.
  • Answer the questions in as much detail as you can.
  • Remember to use a variety of adjectives to sell yourself and your work.
  • Open the ‘Swydd’ document and save it to your HWB account.

 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

 

Step 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf ddefnyddio ansoddeiriau i ddisgrifio fy nghymeriad. / I can use adjectives to describe my character.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf lenwi ffurflen gais yn fanwl. / I can fill out an application form in detail.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf drafod fy addasrwydd a fy sgiliau pethnasol ar gyfer y swydd. / I can discuss my suitability and relevant skills for the job.

 

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw