Y6 > Welsh > Maths_Numeracy > Measures and geometry > Dod o hyd i gyfaint ciwb a chiwboid

Lesson by G. Gibbens + C Phillips

Bwriadau dysgu:

I ddod o hyd i gyfaint ciwb a chiwboid

To find the volume of a cube and a cuboid.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y dasg hon, byddwn yn dysgu sut i ddod o hyd i gyfaint ciwboidau a chiwbiau. Byddwn yn dechrau trwy wylio fideo un munud cyn cwblhau tasg all-lein.

In this task we are going to be learning how to find the volume within cuboids and cubes. We will begin by watching a one minute video before completing an offline task.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn y dasg hon, byddwn yn dysgu sut i ddod o hyd i gyfaint ciwboidau a chiwbiau. Pam y gallai’r sgil hon fod yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol? A allwch chi feddwl am unrhyw sefyllfaoedd pan fydd angen i chi wneud hyn efallai?

In this task we are going to be learning how to find the volume within cuboids and cubes. Why might this skill be useful for the future? Can you think of any situations when you might need to do this?

A oes unrhyw adeiladwyr / penseiri y dyfodol allan yna? Un o’r senarios lle gallech chi ddefnyddio’r sgil hon yw wrth adeiladu tŷ. Er enghraifft, wrth gyllidebu ar gyfer cost tŷ newydd, mae llawer o benseiri yn defnyddio cyfaint (mewn metrau ciwbig) fel offeryn i ddarganfod faint y bydd yn ei gostio. Yn ddiweddar, pan oeddwn yn gosod sylfaen ar gyfer sied yn yr ardd, roedd rhaid i mi fesur a gweithio allan faint o goncrit y byddai angen i mi ei gymysgu er mwyn llenwi’r ffos yr oeddwn wedi’i chloddio. Mae yna lawer o adegau pan fydd y sgil hon yn ddefnyddiol.

Any budding builders/architects out there? One of the scenarios where you could use this skill is when building a house. For example, when budgeting for the cost of a new house, many architects use the volume (in cubic meters) as a tool to work out how much it will cost. Recently, when I was laying a base for my garden shed, I had to measure up and work out how much concrete I would need to mix in order to fill the trench that I had dug. There are lots of times when this skill will be useful.

Iawn, gadewch i ni ddechrau. Yn gyntaf – gwyliwch y fideo hon: (tan 1 munud 12)

Ok, Let’s get started. First of all- watch this video (until 1 minute 12):

Gadewch i ni gadw pethau’n syml iawn – i ddod o hyd i gyfaint ciwb / ciwboid mae angen i chi ddilyn y ‘top tips’ hyn:

• Dewch o hyd i’ch ciwboid

• Mesurwch yr hyd, lled ac uchder

• Lluoswch yr hyd, y lled a’r uchder gan ddefnyddio’r dull a ddewiswyd gennych

• Ysgrifennwch eich cyfanswm mewn cm³ neu m³ yn dibynnu ar ba unedau rydych chi’n mesur gyda nhw

• Gwyliwch y fideo eto a defnyddiwch y ‘top tips’ os oes angen help

Os oes angen help arnoch chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd yn ôl at y ‘top tips’ a gwyliwch y fideo eto – dyfalbarhewch.

Bydd tair lefel o her i chi, does dim rhaid i chi eu cwblhau i gyd ond byddwch yn uchelgeisiol.

Let’s keep it really simple- to find the volume of a cube/cuboid you need to follow these top tips:

•Find your cuboid

•Measure the length, width and height

•Multiply the length, width and height using your chosen method

•Write your total in cm³ or m³ depending on which units you measure with

•Watch the video again and use the top tips if you need help

If you get stuck, make sure you go back to the top tips and watch the video again- persevere.

There will be three levels of challenge for you, you do not have to complete them all but be ambitious

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Efydd - Dewch o hyd i 2 wrthrych bach sy’ siâp ciwboid o amgylch eich cartref. E.e. llyfr neu flwch grawnfwyd. Mesurwch a chyfrifwch eu cyfaint. (Defnyddiwch y pren mesur neu dâp mesur - os nad oes gennych chi un,  byrfyfyriwch e.e. defnyddiwch led eich bys fel un uned) 

Bronze- Find 2 cuboid small shaped objects around the home. E.g. a book or cereal box. Measure and calculate their volume. (Use the ruler or a tape measure- if you do not have one, improvise e.g. use the width of your finger as one unit)

 

Arian - Dewch o hyd i wrthrychau siâp ciwboid sy’n fwy o faint o amgylch eich cartref a chyfrifwch eu cyfaint. E.e. cwpwrdd, gwely llysiau 

Silver-Find larger cuboid shaped objects around the home and calculate their volume. E.g. a cupboard, vegetable bed

Aur - Cyfrifwch gyfaint ystafell / adeilad allanol / sied. Dewiswch yr uned fesur fwyaf priodol i’w defnyddio. 

Gold-Calculate the volume of a room/outbuilding/shed. Choose the most appropriate unit of measure to use.

Gallwch gofnodi’ch canfyddiadau gan ddefnyddio diagram wedi’i labelu o’r eitem / eitemau o’ch dewis fel yn y fideo. 

You can record your findings using a labelled diagram of your chosen item/items like in the video.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Step 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf fesur hyd, lled ac uchder. / I can measure length, width and height.

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallaf ddod o hyd i gyfaint ciwb a chiwboid. / I can find the volume of a cube and a cuboid.

Meini prawf llwyddiant #3:  Gallaf gofnodi canfyddiadau mewn diagram. / I can record findings in a diagram.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw