Y6 > Welsh > Maths_Numeracy > Statistics and probability > Creu bas data am chwaraewyr rygbi Cymru

Lesson by Sara Jones

Bwriadau dysgu:

  • I greu bas data fy hoff chwaraewyr o garfan rygbi Cymru.
  • To create a database of my favourite players from the Welsh rugby squad.

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Mae’r weithgaredd hon yn cynnwys gwylio tiwtorial fideo 9 munud i ddysgu sut i greu cronfa ddata ar HWB. Os ydych plentyn yn gwybod sut i greu cronfa ddata, gallwch symud ymlaen i’r dasg. Y brif dasg yw ymchwilio i ystadegau chwaraewyr gan ddefnyddio gwefan WRU er mwyn creu cronfa ddata.

This activity involves watching a 9 minute video tutorial to learn how to create a database on HWB. If your child knows how to create a database, you can move on to the task. The main task is to research player statistics using the WRU website in order to create a database.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Beth yw bas data?

  • System gyfrifiadurol yw cronfa ddata sy’n ei gwneud hi’n hawdd chwilio, dewis a storio gwybodaeth. Defnyddir cronfeydd data mewn llawer o wahanol leoedd.
  • Efallai y bydd eich ysgol yn defnyddio cronfa ddata i storio gwybodaeth am bresenoldeb neu i storio gwybodaeth gyswllt disgyblion ac athrawon. Os oeddech chi’n berchen ar siop chwaraeon a bod gennych chi lawer o wahanol fathau o offer efallai yr hoffech chi gadw cofnod ohonyn nhw.
  • Gelwir pob eitem a roddwch yn eich cronfa ddata yn ‘gofnod’.

What is a database?

  • A database is a computerised system that makes it easy to search, select and store information. Databases are used in many different places.
  • Your school might use a database to store information about attendance or to store pupils’ and teachers’ contact information. If you owned a sports shop and had lots of different types of equipment you might want to keep a record of them.
  • Every item you put into your database is called a ‘record’.

 

Gallwch greu bas data gan ddefnyddio J2data ar HWB. Eich tasg heddiw yw creu bas data o chwaraewyr rygbi Cymru. Gwyliwch y tiwtorial fideo hwn. Wrth wylio, meddyliwch am y wybodaeth y gallech ei chynnwys yn eich bas data am chwaraewyr rygbi.

You can create a database using J2data on HWB. Your task today is to create a database of Welsh rugby players. Watch this video tutorial. Whilst watching, have a think about the information that you could include on your database about rugby players.

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

Defnyddiwch y wybodaeth sydd ar gael ar y wefan isod er mwyn gwneud ymchwil ar garfan Cymru a gwnewch bas data o’i ystadegau e.e..capiau/pwysau/taldra/safle/oedran. Defnyddiwch j2data i greu eich bas data. Gallwch gymharu’r data trwy greu graff o’r canlyniadau.

Use the information available on the website below to conduct research on the Wales squad and build a database of player statistics e.g. caps/weight/height/position/age. Use j2data to create your database. You can compare the data by graphing the results.

CARFAN CYMRU

  • Anfonwch eich gwaith at eich athro.
  • Send your work to your teacher.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gallaf greu bas data o fy hoff chwaraewyr o garfan rygbi Cymru/I can create a database of my favourite players from the Welsh rugby squad.

 

Cam 5: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein

J2e  Google Drive  OneDrive   Seesaw