Reception > Welsh > Language_Literacy_Communication > Oracy > Arddodiaid-Creu cwrs rhwystr

Gan Bethan Lewis

Bwriadau dysgu:

  • Dysgu am arddodiaid a’u defnyddio i wneud cwrs rhwystrau
  • Learn about prepositions and use them to make an obstacle course

Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion

Yn y gweithgaredd yma byddwch yn dysgu am arddodiaid ac yn defnyddio’r hyn rydych chi’n ei wybod i osod tegan mewn llefydd penodol ac i greu cwrs rhwystr eich hun!In this activity you will learn about prepositions and will use what you know to place a toy in certain places and to create your own obstacle course!

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Gwrandewch ar y stori yma am iâr o’r enw Begw sy’n mynd am dro.Listen to this story about a chicken called Begw who goes for a walk

Defnyddiwch y daflen yma i ddysgu ychydig o arddodiaid. Mae lluniau ar y daflen o bengwin bach yn yr holl safleoedd hefyd. Gweithiwch gydag aelod o’r teulu i osod tegan eich hun ym mhob un o’r safleoedd ar y daflen (bydd angen bowlen neu focs neu rywbeth tebyg arnoch chi) yna, unwaith y byddwch chi’n hyderus gyda’r arddodiaid, gofynnwch i’ch aelod o’r teulu i alw’r arddodiaid allan a gallwch chi roi’r tegan yn y lle cywir.

Use this sheet to learn a few prepositions. There are also pictures on the sheet of a little penguin in all these positions. Work with a family member to place your own toy in all of the positions on the sheet (you’ll need a bowl or box or something similar) then, once you are confident with the prepositions, ask your family member to call the prepositions out and you can place the toy in the correct place.

Arddodiaid

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf gwrandewch ar stori Begw
  2. Nesaf edrychwch ar y daflen arddodiaid a symud eich tegan i bob un o’r safleoedd
  3. Edrychwch eto ar stori Begw neu siaradwch am yr hyn y gallwch chi ei gofio am ei thaith gerdded. Aeth Begw dros bethau ac o dan bethau, trwy bethau ac o amgylch pethau, roedd yn debyg i gwrs rhwystr!
  4. Rydych nawr yn mynd i wneud cwrs rhwystr eich hun, gyda llawer o bethau i fynd dros, trwy, o gwmpas….
  5. Dyma daflen a allai eich helpu i gynllunio’ch cwrs rhwystr. Mae angen i chi ddewis ble rydych chi’n mynd i fynd, sut y byddwch chi’n teithio ac ym mha drefn. Nid oes angen ysgrifennu’r cyfarwyddiadau hyn, dim ond eich helpu chi i gynllunio’ch cwrs rhwystrau a rhoi cyfarwyddiadau i unrhyw un sy’n cwblhau eich cwrs!

Tasks for this Activity

  1. First listen to the story about Begw.
  2. Next look at the prepositions sheet and move your own toy into all of the positions.
  3. Have another look at the Begw story or talk about what you can remember about her walk. Begw went over things and under things, through things and around things, it was a bit like an obstacle course!
  4. You are now going to make your own obstacle course, with lots of things to go over, through and around….
  5. Here is a sheet that might help you plan your obstacle course. You need to choose where you are going to go, how you will travel and in what order. These instructions don’t need to be written down, they are just to help you plan your obstacle course and give instructions to anybody who completes your course!

Cyfarwyddiadau-creu-cwrs-rhwystr

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.

Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)

  • Ffilmiwch eich hun yn cwblhau eich cwrs rhwystr gan roi cyfarwyddiadau wrth i chi fynd o gwmpas fel y gall eraill roi cynnig arni hefyd neu wneud un eu hunain!
  • Film yourself completing your obstacle course, giving instructions as you go around so that others can have a go too or make their own!

Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:

Meini prawf llwyddiant #1:  Gwybod rhai arddodiaid / Know some prepositions

Meini prawf llwyddiant #2:  Gallu defnyddio arddodiaid yn fy chwarae / Able to use prepositions in my play

Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein  

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw