Reception > Welsh > Language_Literacy_Communication > Writing > Cyfansoddi a pherfformio

Gan Sarah Thomas

Bwriadau Dysgu:

  • Canu cân ‘Jac y jac-do’ ar ffurf canu carioci, cyfansoddi geiriau newydd i’r gân a’i pherfformio o flaen cynulleidfa.
  • Sing ‘Jac y jac-do’ karaoke style, compose new lyrics to the song and perform in front of an audience.

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Ydych chi’n barod i ganu carioci? Yn y gweithgaredd yma byddwch chi’n dysgu cân syml ac yn creu penillion newydd i’r gân. Yna, ychwanegu cerddoriaeth eich hun a pherfformio’r gân o flaen cynulleidfa, ac yn fwy na dim cael llawer o hwyl a sbri!Are you ready for a karaoke singing session?  In this activity you will learn a simple song and compose new verses for the song. Then you’ll add your own music and perform the song in front of an audience, and most of all have lots of fun.

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Yn gyntaf gwrandewch ar y clipiau yma o gân ‘Jac y jac-do’ a ‘Brân fawr ddu’.Listen carefully to these songs ‘Jac y jac-do’ and ‘Brân fawr ddu’.

 

Nesaf, edrychwch yn ofalus ar y pwerbwynt ‘Canu carioci yr adar bach’. Dysgwch eiriau’r gân ac yna ychwanegwch gerddoriaeth a phenillion newydd eich hun.

Next look carefully at this powerpoint ‘Canu carioci yr adar bach’. Learn the words to the song and then add your own music and verses to the song.

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf, gwrandewch ar y caneuon yma: ‘Jac y jac-do’ a Brân fawr ddu’ a dysgwch y geiriau. Listen to the songs: ‘Jac y jac-do’ and ‘Brân fawr ddu’ and learn the words.
  2. Nesaf, edrychwch ar y pwerbwynt ‘Canu carioci’r adar bach’. Next, look at the powerpoint ‘Canu carioci’r adar bach’.
  3. Yna, ychwanegwch benillion newydd i’r gân. Dewiswch eich hoff aderyn ac ewch ati i greu pennill newydd. Ydych chi’n medru defnyddio geiriau sy’n odli yn y pennill? Next include your own verse to the song. Choose your favourite bird and compose a new verse. Can you include words that rhyme?
  4. Nesaf, dewiswch offerynnau i’w chwarae. Sut fyddwch chi’n chwarae’r offerynnau? Gall yr offerynnau fod yn unrhywbeth sydd gyda chi o gwmpas y tŷ e llwy a sosban. Beth am geisio cadw curiad cyson wrth chwarae tra’n canu hefyd? Cofiwch ymarfer a meddyliwch sut fedrwch chi wella eich perfformiad. You will now need to choose instruments to play. How will you play your instruments? Your instruments can be anything you have around your house e.g a spoon and a saucepan. What about trying to keep a steady beat whilst singing at the same time? Remember to practise and think about how you could improve your performance.
  5. Nawr mae’n amser i berfformio’r gân o flaen cynulleidfa. Beth am berfformio o flaen teulu, ffrindiau neu eich teganau? Now it’s time to perform your song in front of an audience. How about performing in front of friends, family or your toys?
  6. Ewch ati i wneud recordiad o’ch gwaith a’i ddanfon i ffrind neu at aelod o’ch teulu i’w ganu. Make a recording of your performance and send it to your friends or a member of your family to sing.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

 J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw