Gen Bethan Pennington
Bwriadau Dysgu:
- Ymarfer adnabyddiaeth o rifau i 5 ar gyfer y meithrin a 10 ar gyfer y derbyn a’u cynrychioli wrth glapio.
- Practice recognising your numbers to 5 for nursery, to 10 for reception and then representing these by clapping.
Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion
Defnyddiwch y linc isod sy’n dod a chi i ddolen sy’n dewis rhifau ar hap. Mae modd i chi ddewis hyd at ba rif mae’n ei dewis. Dechreuwch gyda rhifau 0-5 os ydych yn y meithrin neu 0-10 os ydych yn y derbyn.
Gwasgwch y botwm er mwyn iddo ddewis rhif ar hap, ydych chi’n adnabod y rhif? Beth am glapio’r rhif yma. Er enghraifft os mae rhif 5 yn ymddangos, clapiwch 5 gwaith. Parhewch i chwarae am gyfnod o amser i ddod yn fwy hyderus.
Use the link below which takes you to a random number generator. You can choose the range of numbers it can select from. Begin by selecting the range of numbers 0-5 if you’re in the nursery or 1-10 if you’re in reception.
Click the select Number button to begin, it will choose a random number. Do you recognise this number? How about clapping this amount? For example, if number 5 appears, clap five times etc. Continue to play the game until you are more confident.
Google Random Number Generator
- Beth am herio eich hunain ac ymestyn y rhif efallai?
- How about challenging yourself and extend the number perhaps?
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Gwyliwch y fideo enghreifftiol am gymorth pellach a chanllawiau sut i chwarae.
Watch the demonstration video below for further support and on how to play the game.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwnI gwblhau’r gweithgaredd, dilynwch y camau isod:
- Cliciwch ar y linc Google Random Number Generator
- Cliciwch er mwyn iddo ddewis rhif ar hap
- Ydych chi’n adnabod y rhif yma? Beth yw’r rhif?
- Beth am gynrychioli’r rhif yma wrth glapio?
- Barod am her? Ymestynnwch y rhifau!
To complete this activity, follow these steps:
- Click on the Google Random Number Generator Link
- Click the button in order to select a number at random
- Do you recognise the number? What is it?
- How about representing each number with claps?
- Ready for a challenge? Extend the range of numbers!
Cymerwch fideo o’ch plentyn yn chwarae ac anfonwch i’r athro/athrawes dosbarth. Take a video of your child playing and send to their class teacher
Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.
Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw