Nursery > Welsh > Language_Literacy_Communication > Oracy > Taith synhwyraidd

Gan Bethan Lewis

 

Bwriadau Dysgu:

Defnyddio eich 5 synnwyr i ddisgrifio eich gardd neu wrth fynd am dro.

Use your 5 senses to describe your garden or a walk.

 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn mynd tu allan a naill ai’n cerdded o amgylch eich gardd neu’n mynd am dro yn agos i’ch cartref.  Byddwch yn defnyddio’ch 5 synnwyr i ddisgrifio’ch profiad. Byddwch yn cofnodi eich disgrifiad drwy recordio eich llais neu ysgrifennu brawddegau syml.

In this activity you will go outside and either walk around your garden or go for a walk close to your home.  You will use your 5 senses to describe your experience. You will record your description by recording your voice or writing simple sentences.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Gwrandewch ar y gân yma am y synhwyrau.

Mae gennym ni 5 synnwyr, a ydych chi’n gwybod beth ydyn nhw? Pa rannau o’r corff sydd angen arnom i ddefnyddio ein 5 synnwyr? Mae hyn i gyd yn cael ei esbonio yn y gân felly gwrandewch yn ofalus!

Edrychwch o gwmpas lle rydych chi’n eistedd, a siaradwch am yr hyn y gallwch chi weld, clywed, arogli a theimlo. A ydych chi wedi blasu unrhyw beth heddiw? Nesaf byddwch chi’n defnyddio’ch synhwyrau y tu allan!

Listen to this song about the senses (above).

We have 5 senses, do you know what they are? What parts of our bodies to we need to use our 5 senses? All of this is explained in the song so listen carefully! Have a look around where you are sitting, and talk about what you can see, hear, smell and feel.  Have you tasted anything today?

Next you will be using your senses outside!

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Yn gyntaf, gwrandewch ar gân y synhwyrau a siaradwch am eich 5 synnwyr a sut rydych chi’n eu defnyddio.
  2. Nesaf, defnyddiwch eich synhwyrau lle rydych chi’n eistedd a siaradwch am yr hyn y gallwch chi weld, clywed ag ati.
  3. Ewch allan i’ch gardd neu allan am dro yn agos i’ch cartref. Ewch â phapur a phensil gyda chi neu gamera.
  4. Beth allwch chi weld?
  5. Beth allwch chi glywed?
  6. Beth allwch chi arogli?
  7. Beth allwch chi deimlo?
  8. A oes unrhyw beth yn eich gardd y gallwch blasu? (Gofynnwch i oedolyn cyn flasu unrhyw beth!)
  9. Tynnwch ffotograffau neu tynnwch luniau o’r pethau hyn.
  10. Pan fyddwch wedi gorffen ewch yn ôl mewn gyda’ch papur llawn lluniau neu gamera llawn ffotograffau a siaradwch amdanyn nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod y geiriau Cymraeg am yr holl bethau wnaethoch weld, clywed, arogli, teimlo neu flasu. Gallwch ofyn i’ch teulu i’ch helpu i chwilio am eiriau nad ydych yn gwybod gan ddefnyddio geiriadur neu eiriadur ar-lein. Yna, gallwch chi ddisgrifio’ch taith synhwyraidd trwy ysgrifennu brawddegau neu recordio’ch hun yn dweud brawddegau.

Defnyddiwch yr agoriadau brawddeg yma:

Gwelais i

Clywais i

Aroglais i

Teimlais i

Bwytais i / Blasais i

Dyma gyflwyniad o fy nhaith synhwyraidd gyda brawddegau a recordiadau llais!

  1. First, listen to the senses song and talk about your 5 senses and how you use them.
  2. Next, use your senses where you’re sitting and talk about what you can see, hear etc.
  3. Head out into your garden or out for a walk near your home. Take some paper and a pencil with you or a camera.
  4. What can you see?
  5. What can you hear?
  6. What can you smell?
  7. What can you feel?
  8. Is there anything in your garden that you can taste? (Ask an adult before tasting anything!)
  9. Take photos or draw pictures of these things.
  10. When you have finished, head back inside with your paper full of pictures or camera full of photos and talk about them. Make sure you know the Welsh words for all the things you saw, heard, smelt, felt or tasted. You can ask your family to help you look up words you don’t know using a dictionary or an online dictionary. You can then describe your sensory walk by writing sentences or recording yourself saying sentences.

Use these sentence starters.

Gwelais i (I saw)

Clywais i (I heard)

Aroglais i (I smelt)

Teimlais i (I felt)

Bwytais i / Blasais i (I ate/I tasted)

Here is a powerpoint of my sensory walk with sentences and voice recordings! (above)

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.

 

Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)

Beth am geisio ymestyn eich brawddegau gydag ansoddeiriau e.e. Gwelais i flodau pert. Teimlais i ddail pigog.

How about extending your sentences with adjectives eg. I saw pretty flowers. I felt spiky leaves.

 

Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw