Nursery > Welsh > Language_Literacy_Communication > Oracy > Ymarfer patrymau brawddeg

Gan Bethan Pennington

 

Bwriadau Dysgu:

Bwriad y gweithgaredd hwn yw ddatblygu gallu eich plentyn i adrodd brawddeg yn hyderus yn y Gymraeg wrth ddefnyddio sefyllfa siopa fel sbardun. Bydd eich plentyn yn dod i arfer â berfau a’u defnyddio’n gywir o fewn brawddegau.

The purpose of this activity is to develop your child’s ability to speak sentences aloud in Welsh whilst also, building their confidence too. This activity uses the instance of a shopping scenario as a hook. Your child will also become familiar with using verbs correctly in sentences.

 

Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion

Yn ystod y gweithgaredd yma, byddwch chi am eich plentyn i feddwl am ei brofiadau siopa, efallai taw profiad o siopa am fwyd i’r tŷ yn wythnosol, neu hyd yn oed siopa am ei esgidiau ysgol. Gwyliwch y clip fideo ble mae merch a’i thad wrthi’n siopa am fwyd, beth ydych chi’n sylwi?Bydd eich plentyn hefyd yn datblygu ei sgiliau corfforol yn ystod y gweithgaredd.  Bydd angen cynnal y gweithgaredd tu allan, lle gall eich plentyn  neidio/sgipio/hercian/rhedeg o un man i’r llall. Pwrpas hwn yw sicrhau brwdfrydedd ac ymrwymiad eich plentyn i’r gweithgaredd ac i’w ddatblygu fel unigolyn iachus.

During this activity you may want to talk to your child about going shopping and to think about what their previous experiences may be of shopping, this might be the weekly food shop or even shopping for their school shoes. Watch the video clip which shows a young girl and her father doing the food shop, what things do you notice?

This activity will be developing your child’s physical skills as this activity takes place outdoors where they can jump/skip/hop/run from one place to the next. The purpose of this is to engage your child in learning and develop them to be active and healthy individuals.

 

Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol

Gweler y daflen lluniau a chyfarwyddiadau yn y linc isod er mwyn ichi weld sut i osod y gweithgaredd.Bydd eisiau i chi osod 3 chylch neu dynnu llun 3 chylch ar y llawr. Yn y trydydd cylch gosodwch ddarnau o fwyd neu luniau o fwyd mae eich plentyn wedi creu.

  1. Yn gyntaf, mae eich plentyn yn neidio mewn i gylch 1 a dweud ‘Es i siopa’
  2. Yna, mae eich plentyn yn neidio i’r ail gylch a dweud ‘a phrynais’
  3. Yn olaf, mae eich plentyn yn symud i’r trydydd cylch a dewis 1-3 eitem ac adrodd yr eitemau yn y Gymraeg.

Bydd y gweithgaredd yn datblygu sgil eich plentyn o adrodd brawddeg yn y Gymraeg.

There’s a document below with diagrams and instructions on how to conduct this activity.

You will need to place three hoops on the floor, or draw 3 circles on the floor in a line. In the third/furthest hoop, place the collected food items or the food pictures.

  1. Firstly, your child jumps into the first hoop/circle and says ‘Es i siopa’ (I went shopping)
  2. Then, your child jumps into the second hoop/circle and say ‘a phrynais’ (and I bought)
  3. Finally, your child moves to the third hoop/circle and choose item(s) and lists them aloud in Welsh.

This activity will develop your child’s ability to construct a sentence in Welsh.

Cyfarwyddiadau-gem-siopa

 

Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn

  1. Meddyliwch a thrafodwch eich profiadau wrth fynd i siopa. Beth ydych chi’n cofio? Beth brynoch chi? / Think about a time when you went shopping. What can you remember? What did you buy?
  2. Gwyliwch y clip YouTube o’r ferch a’i thad yn mynd i siopa. Beth maen nhw’n prynu? Pe gallech chi fynd i siopa beth fyddech chi’n prynu? / Watch the YouTube clip of the young girl and her father going shopping. What did they buy? If you could go shopping what would you buy?
  3. Dechreuwch osod eich gêm wrth dynnu llun 3 chylch ar y llawr, neu ddefnyddio cylchoedd. Ewch i gasglu eitemau o fwyd neu dynnu lluniau bwyd hoffech brynu ac yna gosodwch yn y trydydd cylch. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau, dechreuwch chwarae’r gêm / Begin to set up your task by drawing 3 big circles on the floor or you could use hoops. Then you will need to collect some items from your cupboards or even draw pictures of foods that you would like to buy when shopping. Place these items in the third circle. You can now play the game by following the instructions provided.
  4. Gallwch chi ddefnyddio’r fideo yma i helpu chi adnabod ambell fwyd yn y Gymraeg, neu defnyddiwch eiriadur / You can use this YouTube link to help you with some Welsh words for different types of food. Alternatively, you could use a dictionary.

Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 4.

 

Cam 4: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein

J2e   Google Drive   OneDrive   Seesaw