Bwriadau dysgu:
- Byddwch yn adeiladu brawddegau syml yn dilyn patrwm.
- You will build simple sentences following a sentence pattern.
Cam 1: Trosolwg ar y gweithgaredd ar gyfer y rhieni, gofalwyr a’r disgyblion
Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn darllen/gwrando ar stori syml Tric a Chlic ac yna’n dilyn patrwm y frawddeg yn y stori i adeiladu brawddegau eich hun trwy aildrefnu geiriau.
In this activity you will read/listen to a simple Tric a Chlic story and then follow the sentence pattern in the story to build your own sentences by rearranging words.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Gwrandewch ar y llyfr Tric a Chlic yma yn cael ei ddarllen, yna gwyliwch y fideo eto a cheisiwch ddarllen gyda’r fideo neu agorwch y llyfr fel dogfen pdf a’i ddarllen eich hun.
Listen to this Tric a Chlic book being read, then watch the video again and try and read along or open the book as a pdf document and read it yourself.
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
- Yn gyntaf, gwrandewch ar y llyfr Tric a Chlic yn cael ei ddarllen.
- Nesaf darllenwch gyda’r fideo neu agorwch y llyfr fel dogfen pdf a’i ddarllen eich hun.
- Edrychwch ar un o’r tudalennau a siaradwch am y frawddeg – pwyntiwch geiriau unigol allan yn y frawddeg (Rhieni, gofynnwch ‘Ble mae’r gair ‘mae’? Ble mae’r gair ‘car’?) …. Siaradwch am y briflythyren a’r atalnod llawn.
- Isod mae dogfen gyda’r holl frawddegau o’r llyfr. Torrwch y brawddegau allan ac yna torrwch y geiriau unigol allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r geiriau o’r un frawddeg gyda’i gilydd, yna dewiswch set ac ailadeiladwch y frawddeg. Defnyddiwch y priflythyren a’r atalnod llawn i’ch helpu chi. I ddechrau, fe allech chi gyfatebu’r geiriau i’r frawddeg gyflawn (fe fydd angen argraffu’r ddogfen dwywaith neu ysgrifennu’r frawddeg yn glir ar ddarn o bapur) Cofiwch, does dim angen argraffu’r brawddegau, gallai oedolyn eu hysgrifennu’n glir i chi i’w torri allan. Mae esboniad pellach o’r gweithgaredd yn y ddogfen.
- First, listen to the Tric a Chlic book being read.
- Next read along with the book or open the book as a pdf document and read it yourself.
- Have a look at one of the pages and talk about the sentence – point out individual words within the sentence (Parents, ask ‘Ble mae’r gair ‘mae’? Ble mae’r gair ‘car’? )….(Where is the word)… Talk about the capital letter and the full stop.
- Above is a document with all of the sentences from the book. Cut the sentences out and then cut the individual words out. Make sure you keep the words from the same sentence together, then choose a set and rebuild the sentence. Use the capital letter and full stop to help you. To begin with you could match the words to the completed sentence (document would need to be printed twice or the sentence written out clearly). Remember, the sentences don’t need to be printed out, an adult could write them out clearly for you to cut out. The activity is explained in more detail within the document.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r dasg cewch anfon unrhyw beth yr ydych wedi e greu drwy’r e-bost (ffotograffau, dogfennau, llun sgrin ac yn y blaen) yn syth i’ch athro neu ei lwytho i fyny’n uniongyrchol i unrhyw rai o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 6.
Cam 4: Gweithgareddau estynnol a dilynol/heriau (dewisol)
Defnyddiwch y patrwm brawddeg i greu mwy o frawddegau trwy newid yr ail air a’r gair olaf, mae eglurhad o hyn yn y ddogfen a rhestr eiriau hefyd.
Use the sentence pattern to make more sentences by changing the second and last word, this is explained within the document with a word list.
Cam 5: Edrychwch dros y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd hwn:
Meini prawf llwyddiant #1: Darllen geiriau a brawddegau syml / Read simple words and sentences
Meini prawf llwyddiant #2: Adeiladu brawddegau syml yn gywir / Build simple sentences correctly
Cam 6: Cliciwch ar y cyswllt perthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w lwytho i fyny i’ch meysydd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw