Bwriadau Dysgu:
Adnabod synau cychwynnol wrth ffeindio pethau yn yr ardd ac ymarfer ffurfio llythrennau.
Recognise initial sounds while finding things in the garden and practice letter formation
Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion
Yn y gweithgaredd yma byddwch yn mynd ar helfa’r wyddor yn yr ardd i ffeindio pethau sydd yn dechrau gyda phob llythyren o’r wyddor ac yna yn ymarfer ffurfio llythrennau.In this activity you will go on an alphabet hunt in the garden to find things that begin with each letter of the alphabet and then practice your letter formation.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Gwrandewch ar y gân hon am lythrennau’r wyddor, ceisiwch ymuno yn y canu a gweiddwch seiniau’r llythrennau allan pan welwch chi nhw.
Nawr meddyliwch pa bethau mae’n bosib y byddwch yn gweld wrth fynd allan i’r ardd, pa lythrennau maen nhw’n dechrau gyda?
Rwy’n siŵr bod trychfilod ar eich rhestr o bethau, dyma gân am drychfilod, a wnaethoch chi feddwl am bob un o’r rhain?
Listen to this song about the letters of the alphabet, try and sing along and shout out the letter sounds when you see them.
Now have a think about what things you might see when you go out into the garden, what letters do they begin with?
I’m sure minibeasts were on your list, here is song about minibeasts, did you think of all of these?
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
1 Gwrandewch ar ‘Cân yr Wyddor – Ymunwch a dywedwch y llythrennau wrth iddynt ddod lan ar y sgrin.
2 Meddyliwch am y pethau gallwch weld yn yr ardd, efallai edrychwch allan trwy’r ffenest i gael syniadau. Dywedwch beth yw llythyren gyntaf pob peth rydych yn gweld.
3 Mae’n bosib welwch chi lawer o drychfilod yn yr ardd. Gwrandewch ar ‘Cân Trychfilod’ sydd yn enwi llawer ohonynt.
4 Nawr ewch allan i’r ardd er mwyn ceisio ffeindio rhywbeth sydd yn dechrau gyda phob llythyren o’r wyddor
5 Gallwch gofnodi’r hyn rydych yn ffeindio mewn sawl ffordd wahanol –
- Dyma restr o lythrennau gallwch brintio a llenwi, mae enwau rhai trychfilod wedi’u hychwanegu yn barod i’ch helpu (gyda lle i chi ychwanegu mwy) Mae yna rai llythrennau mewn cromfachau sydd yn rhan o’r wyddor ond nid oes angen eu defnyddio yn yr helfa yma.
- Ysgrifennu’r llythrennau ar ddarn o bapur i greu rhestr eich hunain
- Tynnu lluniau neu cymryd lluniau (ffotos)
- Recordio llais
Dyma daflen geirfa trychfilod Minibeast vocabulary sheet
Dyma lun llawn geirfa o’r ardd Garden vocabulary sheet
- Listen to ‘Cân yr Wyddor’ – Join in and say the letters as they come up on the screen.
- Think about what you might see in the garden, maybe look out of the window for ideas. Say the first letter of everything you see.
- You might see lots of minibeasts in the garden. Listen to ‘Cân Trychfilod’ which names lots of them.
- Now go out into the garden and try to find something that starts with each letter of the alphabet (if you are having trouble thinking of Welsh words for every letter you could do some English words and then look up what the Welsh words are later, this will help with your Welsh vocabulary!)
- You can record what you find in many different ways
- Here is a list of letters you can print and fill in (above), the names of some minibeasts have already been added to help you (with space to add more if you’d like to). There are also some letters in brackets which are part of the alphabet but don’t need to be included in this hunt.
- Write the letters on a piece of paper to create your own list
- Draw pictures or take photos
- Voice recordings
Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)
Ar ôl cwblhau eich rhestr beth am ymarfer ffurfio rhai o’r llythrennau yn yr ardd – gallwch ddefnyddio sialc, brws paent a dŵr, ffurfio allan o gerrig neu ddail…. Byddwch yn greadigol! Gorffennwch gyda gêm o ‘Mi welaf i gyda fy llygad bach i’! When you have completed your list why not practice forming some of the letters in the garden – you can use chalk, a paintbrush and water, form out of stones or leaves …. Get creative! Finish off with a game of I Spy!
Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw