Lesson by Beth Lewis
Bwriadau Dysgu:
- I ddefnyddio’r corff i greu siapiau a symudiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan yr ardd.
- To use the body to create shapes and movements inspired by the garden.
Cam 1: Trosolwg o weithgaredd ar gyfer rhieni, gofalwyr a disgyblion
Yn y gweithgaredd hwn byddwch chi’n creu dawns trwy ddefnyddio’ch corff i greu cyfres o siapiau a symudiadau i gynrychioli’r pethau rydych yn eu gweld yn yr ardd.In this activity you will create a dance by using your body to create a sequence of shapes and movements to represent things you see in the garden.
Cam 2: Cyflwyniad i’r gweithgaredd a gwybodaeth ychwanegol
Mae’r sesiwn hon yn sesiwn gorfforol felly, dewch inni ddechrau trwy ymestyn y corff. Edrychwch ar y cardiau hyn sy’n dangos gwahanol siapiau y gallwch greu gyda’ch corff. Dewiswch ychydig i’w copïo, fe allech chi ddewis set a’u gosod allan ar y llawr neu ar linell olchi a’u gwneud mewn dilyniant. Allwch chi feddwl am siapiau eraill y gallwch eu creu gyda’ch corff? Beth am wahanol ffyrdd o symud?This session is a physical session so let’s begin by stretching the body. Have a look at these cards showing different shapes you can create with your body. Pick a few to copy, you could choose a set and lay them out on the floor or on a washing line and do them in a sequence. Can you think of some different shapes you can create with your body? What about different ways of moving?
Cam 3: Tasgau i’w cyflawni ar gyfer y gweithgaredd hwn
- Yn gyntaf, edrychwch ar y cardiau siâp corff, dewiswch rai i’w copïo. Gwnewch rai mewn dilyniant a gwnewch rai newydd i fyny. Yna, meddyliwch am rai ffyrdd gwahanol y gallwch symud eich corff.
- Gwyliwch y fideo hwn a dilynwch y cyfarwyddiadau a’r enghreifftiau i ymuno gyda’r ddawns. Mae’r fideo yn ddwyieithog.
- Nawr eich bod wedi ymarfer rhai siapiau a symudiadau ac wedi ymuno â’r ddawns cafodd ei hysbrydoli gan yr ardd, mae’n bryd mynd allan i’r ardd i greu un eich hun. Edrychwch o’ch cwmpas am ysbrydoliaeth, pa blanhigion sydd yna? Pa anifeiliaid allwch chi eu gweld? Sut mae’r tywydd? Ceisiwch gynrychioli’r holl bethau yma yn eich dawns, nid oes unrhyw reolau dim ond i fod yn greadigol gyda’ch corff! Os nad oes gennych le awyr agored, ceisiwch greu eich dawns gan ddefnyddio’ch dychymyg ac o’r hyn rydych chi wedi’i wylio ar y fideo.
- Dyma restr chwarae o ganeuon gan y band ‘Plu’ o’u halbwm ‘Anifeiliaid y goedwig’ mae’r caneuon i gyd yn ymwneud ag anifeiliaid a’r awyr agored, beth am ddefnyddio un o’r rhain ar gyfer eich dawns?
- Ceisiwch ffilmio eich dawns fel y gall eraill ei gweld a cheisio efelychu.
- Firstly, look at the body shape cards, choose some to copy. Copy some of the body shapes in a sequence and create some of your own. Then think of some different ways which you can move your body.
- Watch this video (above) and follow the instructions and demonstrations to dance along with it. The video is bilingual.
- Now that you have practiced some shapes and movements and joined in with a dance, inspired by the garden it’s time to go out into the garden and create a dance of your own. Have a look around you for inspiration, what plants are there? What animals can you see? What is the weather like? Try and represent all of these things in your dance, there are no rules just be creative with your bodies! If you don’t have an outdoor space, try and create your dance using your imagination and from what you have watched on the video.
- Here is a playlist of songs by the band ‘Plu’ from their album ‘Anifeiliaid y goedwig’ all the songs are about animals and the outdoors, why not use one of these for your dance? (above)
- Try to film your dance so that others can watch it and try to copy it.
Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch anfon e-bost at unrhyw beth rydych chi’n ei greu (lluniau, dogfennau, sgrinluniau ac ati) yn uniongyrchol i’ch athro neu ei uwchlwytho’n uniongyrchol i unrhyw un o’r lleoedd sydd ar gael yng Ngham 5.
Cam 4: Ymestyn a gweithgareddau / heriau dilynol (dewisol)
Ar ddiwedd fideo dawns yr ardd, mae rhai o’r plant yn gorwedd ar y llawr ac wedi creu adenydd allan o eitemau bob dydd fel eu bod yn edrych fel pili-palod. A allwch chi wneud yr un peth? Cofiwch, mae pili-palod yn gymesur!At the end of the garden dance video, some of the children are lying on the floor and have created wings out of everyday items so that they look like butterflies. Can you do the same? Remember, butterflies are symmetrical!
Cam 5: Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod os oes gennych unrhyw waith i’w uwchlwytho i’ch ardaloedd ar-lein
J2e Google Drive OneDrive Seesaw